Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O ran hynny, anfynych y bydd raid i bregethwr wrth eiriau na cheir mohonynt yn y Beibl, a dau neu dri o lyfrau cynefin eraill. A chan y dylai pawb a fagwyd mewn Ysgol Sul fod erbyn hyn yn hyddysg yn y Beibl, ni raid i un pregethwr ymddiheuro i neb am arfer pob rhyw air ac ymadrodd a gaffer ynddo fo. Ni ellwch byth draethu holl gyngor Duw mewn pum cant o eiriau, hyd yn oed pe baech yn eu britho â phum cant arall o eiriau Saesneg. Er ichwi ymgyfaddasu i ddealltwriaeth y werin hyd at bregethu fel cenhadon Mr. Booth, fe fydd rhai o'ch geiriau fyth yn ddieithr i ambell wrandawr. Rhaid ichwi wrth lawer o eiriau i ymdrin yn drwyadl â llawer o bynciau; ond haeru yr ydwyf i na bydd y geiriau hynny ddim mwy annealladwy i'r cyffredin o fod yn Gymraeg. Paham y mae cynifer o bregethwyr sydd heb fod yn brominent eu hunain mor chwannog i arfer y gair prominent wrth bregethu?[1] A oes ynddo fo ogoniant mwy nag yn y gair amlwg? Ac os oes, tybed fod gweision a morwynion Cymru yn ddigon craff i'w ganfod? Ac os gelwir ar bregethwr i gefnogi rhyw gynigiad mewn cyf-

  1. Tua blwyddyn yn ôl, o bulpud Cymraeg yn y dref hon, clywyd y frawddeg fythgofiadwy hon:—"Mae'r subliminal consciousness yn full of infinite possibilities!"—Gol.