Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arfod cyhoeddus, a gyfrifir o'n bregethwr mwy am iddo ddywedyd, "Y mae'n bleser [neu, yn hyfrydwch] gennyf eilio'r cynigiad," nag os dywed, fel rhyw ddyn arall: "Y mae'n hyfryd gennyf gefnogi'r cynigiad." Yn ddiau, pregethwr mawreddog ac nid pregethwr mawr a fyn arfer enw yn lle cyfenw, a rhoddi ystyr newydd ac amwys i'r gair eilio. Y mae'n ddigon tebygol ei bod yn hawdd i Gymry sy'n medru Saesneg ddyfalu ystyr yr ymadrodd anghymreigaidd yma: "Yr ydych at eich rhyddid i ateb yr wyth a fynnoch o'r cwestiynau," ond fe ddylai'r rhai sy'n llunio rheolau i ymgeiswyr gofio bod eto liaws yn y wlad yn fwy hyddysg yn iaith yr Ysgrythur nag yn eu cymysgiaith hwy, ac y dylid gan hynny ddywedyd wrthynt mewn Cymraeg glân: "Y mae'n rhydd i chwi ateb," etc.

Os na ellwch gael mewn geiriadur, neu yn ein hen glasuron Cymraeg, air mor gymwys a phenodol ei ystyr â rhyw air estronol y gwyddoch amdano, gofynnwch i rywun cyfarwydd ffurfio gair ichwi; ac os na bydd hwnnw yn haeddu ei dderbyn gan bawb, yna Cymreigiwch y gair estronol yn gytunol â deddfau'r Gymraeg. Er enghraifft, os gair Groeg yn diweddu yn is a fydd o, tynnwch yr is ymaith, a dodwch derfyniad Cymraeg yn ei le. Os bydd yr hen air ffaig yn anghymer-