mor awyddus i lanhau eu hiaith oddi wrth estron-eiriau fel y maent hwy wedi bwrw allan y ffurf anatomie er mwyn gwneud lle i'r gair anferth hwn. Ac yn y diwedd, rhaid iddynt barhau i arfer y cyfenw estronol anatomisch o eisiau gair Ellmyneg pur, cyfystyr â'r gair Cymraeg difynegol. Os bydd gennym ni'r Cymry enw ar rywbeth yn ein hiaith ein hun, ni raid i ni, fel yr Ellmyn, fynd i iaith arall i gaffael cyfenw. Am fod y geiriau hyn yn enghreifftiau cyfleus y darfu i mi wrth reswm eu dewis hwy, ac nid am fy mod yn meddwl y bydd arnoch eu heisiau yn y pulpud.
Er mai peth dibwys ydyw purdeb sain wrth burdeb geiriau, ac yn enwedig wrth burdeb ymadroddion, eto yr wy'n meddwl ei bod bellach yn bryd i ni, sy'n ddysgawdwyr i'r bobl, seinio enwau estronol naill ai yn ôl deddfau'r iaith y cymerwyd hwy ohoni, neu ynteu yn ôl deddfau'r iaith y dygwyd hwy iddi. Arfer yn unig, a honno'n arfer ddrwg a diweddar, sy'n peri inni lasenwi rhyw hen batriarch yn Dsiacob; canys nid yw'r enw hwn o ran ei sain na Hebraeg na Chymraeg na Saesneg. Y mae'n sicr na buasai golygyddion y Beibl Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1654 byth yn arfer y j i ddynodi sain yr i gytseiniol pe rhagwybuasent y buasai rhyw fân bregethwyr annysg-