Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edig yn nechrau'r ganrif hon yn ceisio seinio'r j honno fel j Saesneg. A gwybydder mai ceisio ei seinio felly, ac nid ei seinio'n gwbl Saesneg, y mae llawer o bregethwyr hyd yr awr hon. Er y buasai'n dda inni wrth y llythyren hon, eto y mae'n burion nad ydys yn awr yn ei harfer mor gyffredinol ag y buwyd unwaith, onide fe a'n dysgesid yn yr Ysgol Sul i seinio jawn yn dsiawn, a jachawdwrjaeth yn dsiachawdwrdsiaeth. Gresyn na fuasai'r cyfieithwyr wedi arfer ymhobman yr hen ffurfiau Cymraeg oedd ar arfer yn eu hamser hwy, sef Iagof neu Iago ac nid Jacob, Iof neu Io ac nid Job, Moesen ac nid Moses; canys ni fuasai neb mor dueddol i gamseinio'r hen ffurfiau cynefin. Yn Salmau Edmwnd Prys y ffurf Iago a arferir, a hynny am ei bod hi'n fwy barddonol na'r ffurf newydd; a Iago ydyw'r ffurf a geir yn y Testament Newydd ar fwy nag un Jacob. Yr ydys eto yn arfer Moesen yn y gair tarddedig Moesenaidd fel yr ydys yn arfer Platon yn y geiriau tarddedig Platonig a Platoniaid. Diau fod y fath enwau ag Eisac a Sôl yn ffurfiau pur Seisnigaidd, eithr dyna'r cwbl a ellir ei ddywedyd drostynt. Pan ddysgir y Gymraeg yn yr ysgolion beunyddiol fe ddysgir y plant i seinio geiriau estronol yn fwy priodol; ac os na achubwn eu