Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos hynny, y mae'r cenhedloedd hyn oll wedi ymwrthod ag ef ers cannoedd o flynyddoedd: y tair blaenaf ohonynt trwy fwrw allan y t, a'r Ffrancwyr trwy ddwy neu dair o ffyrdd nad yw'n wiw ymdroi i'w hegluro. Y mae'r arfer gyffredinol hon yn profi bod nt, yn enwedig yn niwedd sill ddiacen, yn sain ddybryd. Ond er bod llais Cymru. a llais y Cyfandir hefyd yn mynd yn erbyn y t ar ôl n yn nherfyniadau lluosog berfau, y mae argraffwyr diweddar yn glynu wrthi'n dynnach hyd yn oed nag ysgrifenwyr Cymraeg y Canol Oesoedd. Ond os ydys yn parhau i'w hargraffu ac i'w hysgrifennu, ni ddylai neb ei llefaru. Ac heblaw ei bod yn anodd seinio t ar ôl n, y mae'n anodd seinio pob cytsain arall ar ôl t. Am hynny y mae n, gan ei bod yn llythyren lithrig, ac felly'n cyd-daro'n lled esmwyth â chytsain ddilynol, yn well llythyren derfyn na t. Er enghraifft, y mae'n haws dywedyd: "Hwy a welan Dduw," na "Hwy a welant Dduw."

Peth arall sy'n boenus i bob siaradwr ydyw seinio sain gyfansawdd a diacen, megis ai, au, ac aw, yn gwelai, pethau, taraw; ac am hynny fe ddylid yn gytunol â deddfau sain a hen arfer roi sain seml i bob un o'r terfyniadau hyn, yn enwedig o flaen cytseiniaid, trwy droi ai yn e, au yn a, ac