aw yn o. Pe cytunai pobl Canolbarth a Deheubarth Cymru i ddywedyd petha yn lle pethau, y mae'n ddiau y cytunem ninnau yn y Gogleddbarth i ddywedyd carre yn lle carrai. Felly fe fyddai'n ddealledig fod e mewn gair tarddedig yn troi'n ei, ac a yn eu. Dyma dir y gall pleidwyr yr a a phleidwyr yr e ymgyfarfod arno heb golli mwy nag a enillant.
Mewn gramadeg Cymraeg a gyhoeddwyd yn yr Almaen yn y flwyddyn 1886, y mae'r awdur yn cadarnhau peth a ddywedasai Cymro yn un o rifynnau cyntaf Y GENINEN, sef bod terfyniadau deuseiniol a diacen yn gwneud y Gymraeg yn fwy afrwydd nag y dylai hi fod. Pan fo tystiolaeth estron yn cytuno â thystiolaeth brodor, rhaid fod mesur o wir ynddi.
Y mae llawer un yn rhoi achos i estroniaid feddwl bod y Gymraeg yn iaith arw oherwydd ei fod yn pwyso gormod ar lythrennau cras. Yn wir, y mae clywed ambell Gymro yn rhochian yr ch yr un fath yn union â chlywed un o Wyddelod Conamara yn chwyrnu yn ei gwsg.
Fe all siaradwr Cymraeg ochel seiniau afrywiog trwy lawer o ffyrdd eraill oedd yn bur gyffredin yn y dyddiau gynt, sef trwy droi m yn n o flaen n arall, megis arnon ni yn lle arnom ni, a thrwy