Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddechrau ymadrodd yn rhoi ystyr mor benodol i'r holl ymadrodd hwnnw fel y mae o'n cau allan bob ystyr arall gwahanol. Cymerer yr ymadrodd hwn yn enghraifft:

Yr oedd yr astudwyr yn cerdded gynnau i'r coleg i weddïo.

Yn yr ymadrodd hwn, dywedyd yr wyf y ffaith yn syml, heb bwyso ar un gair neilltuol; eithr yn yr ymadroddion sy'n canlyn, yr wyf trwy newid trefn y geiriau yn dywedyd rhywbeth nad oeddwn o'r blaen yn ei ddywedyd yn eglur a phendant:

Yr astudwyr oedd yn cerdded gynnau i'r Coleg i weddïo.

Cerdded yr oedd yr astudwyr gynnau i'r Coleg.

Gynnau yr oedd yr astudwyr yn cerdded i'r Coleg.

I'r Coleg yr oedd yr astudwyr yn cerdded gynnau.

I weddïo yr oedd yr astudwyr yn cerdded gynnau i'r Coleg.

Y mae'r ymadroddion hyn yn profi'r hyn a ddywedais o'r blaen, sef bod Cymraeg manwl o anghenraid yn Gymraeg eglur, miniog, ystwyth, a llawn o amrywiaeth; yn Gymraeg sy'n llesol i feddwl y llefarwr ac yn hyfryd i glust y gwrandawr. Y mae'r cyfryw iaith yn peri imi feddwl y gallai'r