Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymry, pe bai eu gweithgarwch gymaint â'u gallu, ragori mwy mewn athroniaeth nag mewn barddoniaeth. Os oes ar hyn o bryd fwy o brydyddion yng Nghymru nag sydd o athronyddion, y mae hynny am ei bod yn haws i ddyn diog fod yn dipyn o brydydd nag yn llawer o athronydd.

Mewn barddoniaeth, ac areithyddiaeth uchel, fe all iaith fod yn ystwyth heb fod yn fanwl. Iaith ystwyth yn hytrach na manwl a geir yn y Beibl, ac iaith felly a geir yn Nrych y Prif Oesoedd. Morgan Llwyd, neu'n hytrach Elis Wynn, oedd y cyntaf a wnaeth iaith fanylach y bobl yn iaith lenorol, ac a seiliodd ystwythder ar fanylder. Y mae ei iaith ef, er yn llai swynol nag iaith hynafol y Drych, yn fwy buddiol i bob perwyl.

Mewn un peth, yn wir, y mae Elis Wynn yn ymbellhau oddi wrth iaith y bobl, ac oddi wrth iaith y prif lenorion eraill hefyd; ac yn hynny o beth y mae o yn llai manwl na hwy, sef mewn peidio ag arfer rhagenw personol yn ddigon mynych o flaen ac ar ôl berf; ac weithiau, y mae o'n tywyllu synnwyr ymadrodd trwy adael a allan o flaen berf, gan ddywedyd, "Ni welsom," pan y mae o'n meddwl dywedyd, "Ni a welsom." Fe ŵyr rhai cyfarwydd pa bryd y gellir hepgor rhagenwau, eithr ni ŵyr y cyffredin ddim; am hynny,