Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

os mynnant hwy lefaru'n eglur, edrychant na chynilont mo'u rhagenwau, yn enwedig gyda'r ffurf noeth a elwir yn "ferf yn y trydydd person unigol." Yn lle dywedyd Daw, dyweder yn hytrach, Efe a ddaw, Hi a ddaw, neu ynteu Y daw efe, Y daw hi; onide fe all gwrandawr feddwl mai gwrthrych y ferf fydd ei thestun. Yn lle arferyd y ffurf orchmynnol Gwelwn am y modd mynegol, dyweder Mi a welwn, os gorffennol ac unigol a fydd y ferf; a Ni a welwn, os dyfodol a lluosog a fydd hi. Heblaw hynny, y mae rhagenwau yn gwneud brawddeg yn fwy rhugl a chlymedig; canys y mae'r frawddeg, Gwelwn ef pan awn yno," heblaw ei bod yn fwy aneglur, yn fwy toredig hefyd na "Ni a'i gwelwn o pan awn ni yno." Y mae'r werin bob amser yn arfer rhagenw ar ôl berf, ac yn arfer mi o flaen berf hefyd; eithr eu bod hwy ysywaeth, fel gwladwyr anllythrennog Ffrainc, yn gwneud i ragenw yn y person cyntaf unigol wasanaethu yn lle rhagenwau yn y personau eraill. Yr un ffunud, fe ddylid weithiau arferyd rhagenw er mwyn eglurder, hyd yn oed pan na bydd ei eisiau er mwyn arbwys, mewn ymadrodd fel hwn hefyd, "Fe sychodd Olwen ei dagrau hi"; canys y rhagenw hi sy'n dangos mai dagrau rhyw ferch amgen nag Olwen a olygir. Heb y