RHAGYMADRODD
Pe gallesid adgynhyrchu'r papurau a baratôdd efe i'r plant a'r bobl ieuainc, y gweddïau a weddïodd efe yn y cyfarfodydd gweddiau, yr anerchiadau a draddododd efe yn y cyfarfodydd eglwysig, a'r ymadroddion fyrdd a lefarodd efe wrth gyfeillion, buasai crefydd a llenyddiaeth Cymru ar eu hennill. . .
ALLAN O GYFLWYNAIR EZRA ROBERTS I'R AIL GYFRES O
HOMILIAU EMRYS AP IWAN, 1909.
Ymgais yw'r gyfrol hon i gyflwyno rhyw ychydig bach o'r cyfoeth y soniodd golygydd Homiliau Emrys ap Iwan amdano yn y geiriau uchod. Daethpwyd o hyd i'r rhan fwyaf o'r cynnwys trwy chwilio llawysgrifau'r awdur, a dyma'r tro cyntaf i fwy na'i hanner gael ei brintio erioed. Wrth ddethol ceisiwyd cynrychioli'r amrywiol agweddau ar waith ysgrifenedig Emrys ap Iwan fel bugail eglwys, ac fel meddyliwr a myfyriwr crefyddol. Rhoddir ei draethawd pwysicaf ar feirniadaeth Feiblaidd i ddechrau, ac yna ran helaeth o'i nodiadau ar ddamhegion Crist. Dilynir y rhain gan bedwar anerchiad ar agweddau ymarferol ar fywyd eglwys, ac wedyn daw rhai pigion o ysgrifau dadleuol Emrys ar y mudiad anwlatgar hwnnw a oedd mor wrthun iddo, sef yr Inglis Côs. Wedi'r chwyrn daw'r tyner, ac yn y gweddïau a'r anerchiadau bedydd fe