Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brofir naws ei ysbryd ar ei angerddolaf. Rhaid oedd wrth un bregeth o leiaf, a chynhwysir gan hynny un o'r rhai anghyhoeddedig, ac anodd meddwl am bregeth â'i neges yn fwy amserol i ni heddiw. Gwyddai nad amlygir grym yr Efengyl ond mewn dioddefaint a gwrthdaro. Ni hudwyd ef i dybio bod cynnydd gwareiddiad y ganrif ddiwethaf yn arwydd o ddyfodiad buan ac esmwyth y Deyrnas. Yr oedd y pwys a roddai ar ddioddefaint a ffydd fel rhoddion dwyfol yn ei gadw rhag rhoi gormod bri ar yr ymgyraeddiadau dynol hynny a oedd mor ddengar yn ei oes ef, ond a droes yn gymaint siom erbyn hyn.

Am y casgliad o ddetholion a welir ar ddiwedd y gyfrol hon, fe'u cafwyd i gyd ymhlith llawysgrifau Emrys, rhai ohonynt yn frawddegau bachog ar eu pen eu hunain, ac eraill yn rhan o lythyrau, ysgrifau, a nodiadau ar wahanol rannau o'r Ysgrythur. Y mae'n wir na cheir nemor gofiant i bregethwr o Gymro heb gynnwys ynddo enghreifftiau o'i ddywediadau, eto y mae'n gwbl deg gweld yn sylwadau byrion Emrys nid yn unig fynegiant o ddawn nodweddiadol Gymreig, ond hefyd ôl ei ymgydnabod llwyr â gwaith

feddylwyr Cristnogol mwyaf Ffrainc a'r byd, sef Blaise Pascal. Gwelir yn ei lawysgrifau ambell un o'r Pensées, naill ai yn y Ffrangeg, neu wedi ei drosi i'r Gymraeg, megis: