Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Il n'y a que deux sortes d'hommes; les uns justes qui se croient pécheurs; les autres pécheurs qui se croient justes.[1]
Pedwar math o ddynion: dynion a chanddynt sêl heb wybodaeth; dynion a chanddynt wybodaeth heb sêl; dynion heb fod ganddynt sêl na gwybodaeth; dynion a chanddynt sêl a gwybodaeth.—Pascal 329.

Fe geir gan y ddau awdur graffter eneidegol, llwyredd ymresymiad, cynildeb gair, cyffroadau awenyddol sydyn, ac angerdd caru Duw â'r holl feddwl.

Codwyd rhan o gynnwys y gyfrol hon o hen rifynnau o'r Geninen, y Faner a'r Tyst Dirwestol. Fe nodir y darnau a gafwyd yn y cylchgronau hyn. O lawysgrifau Emrys ei hun y copïwyd y gweddill. Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru y ceir bellach y llawysgrifau y codwyd ohonynt y rhan fwyaf o'r testun. Diolchir yma i Mr. John Morris, Trefnant, am gael benthyg y llawysgrifau lle cafwyd y gweddïau a'r anerchiadau a welir ar dudalennau 91-102, ynghyd ag ambell un o'r detholion.

Hwyrach nad amherthnasol fydd sôn ychydig yma am gynnwys y degau o gyfrolau a geir yn y Llyfrgell Genedlaethol o lawysgrifau Emrys ap Iwan. Llyfrau poced ydynt gan mwyaf. Ynddynt fe welir llawer o'i ysgrifau printiedig yn eu cyflwr cyntaf, ond nid dyna

  1. Nid oes ond dau fath o ddynion; rhai cyfiawn sy'n meddwl eu bod yn bechaduriaid; a phechaduriaid sy'n meddwl eu bod yn gyfiawn. (Nid Wil Bryan, felly, oedd y cyntaf i wneud y dosbarthiad hwn!)—GOL.