yw'r rhan fwyaf. Gwyddys gymaint o'i amser a roddai Emrys i gyfarfodydd plant, i ddosbarthiadau Beiblaidd, a chyrddau addysgiadol eraill yr eglwysi a fugeiliai. Ffrwyth paratoi manwl ar gyfer y cyfarfodydd hyn yw'r rhan fwyaf o'r llawysgrifau dan sylw. Y mae yn eu plith lawer iawn o holiadau ac atebion, nodiadau a sylwadau ar rannau helaeth o'r Ysgrythur, megis teithiau Paul, gwyrthiau Crist, y damhegion, hanes cymeriadau Beiblaidd megis Iosuah, Samuel, Timotheus; ac i'r dosbarthiadau hynaf fe geir dehongli manwl, adnod ar ôl adnod, o rannau o'r epistol at y Rhufeiniaid, efengyl loan (a oedd yn amlwg yn un o'i hoff feysydd), yr epistol at yr Hebreaid, y Salmau, a darnau eraill. Ceir ganddo nodiadau tra helaeth ar hanes Methodistiaeth yng Nghymru, ac yn llenwi wyth llyfr poced y mae ganddo gyfieithiad i'r Gymraeg o Job Renan. Y mae'n debyg iddo fwriadu hwn ar gyfer y wasg.
Nid y pethau lleiaf eu diddordeb ymhlith y llawysgrifau yw'r beirniadaethau a draddodwyd mewn eisteddfodau lleol a chyfarfodydd cystadleuol. Y mae gan Emrys, fel y gellid tybio, ei ffordd gynnil hun o gyfarfod â ffaeleddau cystadleuwyr, megis, er enghraifft, y Siôn hwnnw o eginfardd a ddibynnai ar ei gof ar draul ei onestrwydd:
Y mae yn y penillion a wnaeth Siôn yn ddiau rai llinellau mwy barddonol nag sydd ym mhenillion neb o'r ymgeiswyr