Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eraill, ond fe fuasai'n well eu gadael lle y cafwyd hwynt na'u dwyn i mewn megis gerfydd eu gwallt a'u hieuo'n anghymarus â llinellau eraill mwy cyffredin a wnaed gan Siôn ei hun.

Cyn gorffen sôn am y llawysgrifau hyn, hoffwn dynnu sylw at hunangofiant byr ganddo sydd i'w gael yn eu plith. Gan ei fyrred, barnwyd yn fuddiol ei godi'n gyfan yma:

Pregethwr, llenor, ac amddiffynnwr hawliau cenhedloedd gweiniaid. Fe'i ganwyd yn Abergele, ac yno y treuliodd ei febyd, oddieithr ychydig flynyddoedd yn Liverpool a Bodelwyddan. Pan oedd yn 18 oed aeth i Athrofa'r Bala. Wedi hynny bu am flwyddyn a hanner mewn ysgol ieithyddol yn Lausanne, yn yr hon yr oedd hen athro Ffrengig meibion y Tywysog Gortschakoff yn ben. Oddi yno aeth i Heidelberg, Bonn a Giessen, ac wedi dychwelyd adref bu am ddwy flynedd neu dair yn Ninbych yn ysgrifennu i'r Gwyddoniadur ac i'r Faner. Wedi hynny, bu'n bugeilio eglwysi Methodistaidd Rhuthyn a Threfnant, ac y mae'n awr yn ymgartrefu yn y Rhewl, gerllaw Rhuthyn. Er bod yn hoffach ganddo fyw yn y wlad nag mewn tref, a bod yn ei ystafell gyda'i lyfrau nag ymddangos mewn cylchoedd cyhoeddus, eto bydd yn treulio ei oriau haf bob blwyddyn yn un o wledydd y Cyfandir. Er cymaint a welodd ac a ddadleuodd, y mae ganddo syniad uchel am Gymru, iaith Cymru, a hen lenyddiaeth Cymru, ac y mae wedi ysgrifennu llawer i annog ei gydwladwyr i roi mwy o bris arnynt eu hunain ac ar eu hiaith, ac ar bob peth gwerthfawr sy'n eu gwahaniaethu oddi wrth y genedl y maent yn fwyaf tueddo! i'w dynwared. Yn y Faner (yr un Fawr), Y Geninen, a'r atodiad i'r Gwyddoniadur yr ymddangosodd y rhan fwyaf o'i ysgrifeniadau. Gan nad oes ganddo fawr o feddwl o'r typical Englishman, sef Saeson uniaith, anwybodus, a thrahaus, fel Chamberlain, y mae'r Cymry mwyaf Seisnigaidd yn ei gyhuddo o fod yn gulfarn, ond y mae dysgedigion tramor yn beio'n dost ar y Cymry am na byddai mwy ohonynt mor Gymreigaidd ac mor Europeaidd eu