Iddewon, hyd ryw fesur, yn ddyledus i'r Groegiaid, i'r Persiaid, ac i'r Eifftiaid. Fe ysbeiliodd yr Israeliaid yr Eifftiaid o ryw bethau amgenach na bethau amgenach na thlysau aur a thlysau arian; a phe na buasent wedi eu caethgludo i Fabilon, a'u dwyn trwy hynny i gysylltiad â'r Persiaid, ychydig os dim o sôn a fuasai yn yr Hen Destament am y dull y crewyd y byd, am nef a Hades ac uffern, am Satan a Gabriel a Michael, am y sarff a dwyllodd Efa yn Eden, am anfarwoldeb enaid ac atgyfodiad y corff. Gan ei bod yn hysbys i'r cyfarwydd fod yr holl bethau hyn yn hen grefydd y Persiaid, ac nad oes un cyfeiriad eglur atynt yn yr Hen Destament, oddieithr yn y llyfrau a sgrifennwyd ar ôl y caethiwed, yna y mae'n naturiol casglu mai yn naear Persia yr eginodd ac y tyfodd yr athrawiaethau hyn. Gormod o beth fyddai dywedyd mai yno y cafodd yr Iddewon yr hadau; diogelach yw dywedyd gyda Kuenen mai crefydd y Persiaid a brysurodd dyfiant yr hadau a oedd o'r blaen yn gorwedd yn guddiedig yn y grefydd Iddewig.
Yn awr, gan fod yr hanes am greadigaeth y byd ac am gwymp dyn wedi eu dodi yn nechrau'r Beibl, y mae'n hawdd i ddarllenydd cyffredin feddwl bod y penodau blaenaf yn yr Hen Destament wedi eu sgrifennu yn gynt na'r llyfrau sydd yn sefyll yn agos i'w ddiwedd; a bod y Salmau hefyd, gan eu bod wedi eu