CYFRAITH MOSES, A'R PROFFWYDI, A'R SALMAU
Nid yw'r peniad uchod namyn ymadrodd yn Luc xxiv 44; ac yr wyf yn ei gymryd yn destun ychydig sylwadau ar ffurfiad ac ar raniadau'r Hen Destament, yr hwn yw'r llyfr gorau o bob llyfr yng ngolwg yr Iddewon, a'r ail orau yng ngolwg Cristnogion hefyd.
Er mai sylwedd y Beibl ydyw'r peth pwysicaf o lawer, eto ni ellir iawnsynio am y sylwedd heb wybod rhywfaint am ei ffurf, ac yr wyf i'n ofni mai ychydig ddarllenwyr y Beibl yng Nghymru sy'n gwybod nemor am ffurfiad a dosbarthiad Hen Destament na'r Newydd. Y mae a wnelo'r ddeubeth hyn â'r amser y sgrifennwyd y gwahanol lyfrau; a heb wybod yr amser y sgrifennwyd hwynt, ni allwn chwaith wybod pa ddylanwad a gafodd crefyddau cenhedloedd eraill ar grefydd yr Israeliaid a'r Iddewon. Er mai i'r rhain y rhoddwyd y datguddiad llawnaf, eto fe roddwyd rhywfaint o ddatguddiad i genhedloedd eraill hefyd, canys fe ddywed Paul na adawodd Duw mono'i hun yn ddidyst mewn un rhan o'r ddaear; ac fe ddywed awdur y bedwaredd efengyl hefyd fod y Gair tragwyddol yn goleuo pob dyn a'r sydd yn dyfod i'r byd. "Iachawdwriaeth sydd o'r Iddewon"; er hynny, y mae'r