fyddo, ai hen ai newydd. A chofier nad hen ydyw pob peth a dybir ei fod yn hen, ac nad newydd ydyw pob peth a dybir ei fod yn newydd. Er enghraifft, fe daera rhyw ddosbarth yn y wlad hon mai gwell yw'r hen syniadau am y Beibl na syniadau beirniaid diweddar, heb wybod nad yw'r syniadau y maent hwy yn eu cyfrif yn newydd namyn hen syniadau Calfin a Luther Diwygwyr Protestannaidd eraill. Am Calfin, y gŵr y mae ei enw ar Fethodistiaid cyntefig Cymru, yr oedd o'n barnu y dylai pwnc y Canon fod yn bwnc agored ymhlith Cristnogion; am mai rheswm a chydwybod dyn ei hun, ynghyd â thystiolaeth yr Ysbryd yn ei galon, sydd i benderfynu pa lyfrau sydd ysbrydoledig a pha lyfrau nad ydynt ysbrydoledig, ac nid traddodiadau'r Rabbiniaid Iddewig a'r Tadau Eglwysig.[1] Am hynny, nid oedd o'n cyfrif Luther yn anffyddiwr o achos bod hwnnw'n barnu y dylasai'r Rabbiniaid fod wedi cau allan o'r Canon lyfrau'r Caniadau, y Pregethwr, Esther, a'r Croniclau, ac o achos ei fod barnu nad oedd epistolau Iago a Suddas, yr Epistol at yr Hebreaid a Llyfr y Datguddiad, ddim yn gyfartal eu hawdurdod â llyfrau eraill y Testament Newydd. Protestaniaid oedd y ddau ŵr hyn, ond mhen rhyw gan mlynedd fe droes y rhan fwyaf o'u dilynwyr yn
- ↑ Gweler yr argraffiad Ffrangeg o'r Institution, sy'n ddiweddarach ac yn helaethach nag argraffiad Lladin 1536. Gweler hefyd Le Congé de discerner entre les livres apocryphes. E. ap I.