Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanner Pabyddion trwy roi mwy o bwys ar draddodiad dynion ac ar awdurdod cynghorau nag ar dystiolaeth cydwybod a thystiolaeth yr Ysbryd.

Nid oes un camsyniad mwy cyffredin na bod Hen Destament yr un faint, yr un fath, ac yn yr un drefn, ymhob oes er dyddiau Esra уг offeiriad. Mewn gwirionedd yr oedd rhannau helaeth ohono heb eu sgrifennu yn ei amser ef, ac ni chasglwyd holl lyfrau'r Testament hwnnw ynghyd hyd Gymanfa Jamnia ym mhen rhyw hanner can mlynedd ar ôl marw Crist. Yn y gymanfa honno fe gafodd y Rabbi Aciba gryn waith i argyhoeddi ei gyd-Rabbiniaid fod llyfrau Esther, y Croniclau, a'r Pregethwr, yn llyfrau cysegredig. Am y rheswm hwn, a'r rheswm nad yw Crist a'i apostolion yn gwneud un cyfeiriad atynt, fe dybia llawer nad oeddid yn cyfrif y llyfrau hyn yn llyfrau cysegredig yn amser Crist. Ond nid yw'r ffaith na chyfeiriasant hwy atynt ddim ynddi ei hun yn braw nad oeddid yn eu cyfrif yn llyfrau ysbrydoledig, ac nid yw eu gwaith yn dyfynnu o lyfrau eraill ddim ynddo'i hun yn braw bod y rheini yn ysbrydoledig; canys y mae llawer yn barnu bod yr Apostolion, os nad yr Iesu hefyd, yn dyfynnu o lyfrau'r Apocryff, a hyd yn oed o lyfrau sydd wedi myned ar goll, am na cheir rhai o'u dyfyniadau mewn dim llyfrau sydd yn awr ar gael. Y ffaith ydyw nad oedd Canon yr Hen Destament ddim wedi ei sefydlu yn amser Crist.