Gymdeithas y Beiblau, ryw 70 mlynedd yn ôl, benderfynu peidio â'u cyd—rwymo o hynny allan â'r Beiblau a argreffid yn eu gweithdy hwy.
Gan fod disgyblion yr Iesu agos i gyd wedi eu magu ar lan Llyn Tiberias, y mae'n sicr eu bod hwy'n medru Groeg yn llawn cystal ag y medr y rhan fwyaf ohonom ninnau Saesneg. Yn wir, y mae'n amlwg mai o'r Hen Destament Groeg y byddent hwy'n fynych yn dyfynnu; a hynny ydyw'r rheswm bod yr ymadroddion dyfynedig yn y Testament Newydd mor annhebyg i'r ymadroddion sydd yn ein Hen Destament ni. Er bod Beibl Iddewon Palestina yn bur debyg i'r Hen Destament sydd yn awr yn ein dwylo ni, eto yr oedd ei lyfrau wedi eu dosbarthu yn bur wahanol. Yn ôl natur eu cynnwys yr ydys wedi dosbarthu'r llyfrau yn ein Hen Destament ni; ac felly, y llyfrau cyfreithiol sy'n sefyll ymlaenaf, y llyfrau hanesyddol yn ail, y llyfrau barddonol ac addysgol yn drydydd, a'r llyfrau proffwydol yn olaf. Yn y Beibl y cyfeiria'r Iesu ato yn y testun yr oedd y llyfrau wedi eu dosbarthu yn ôl eu gwerth a'u hawdurdod, ac felly'r gyfraith sy'n sefyll ymlaenaf, y proffwydi yn nesaf, a'r Salmau yn olaf. Er bod yr Iddewon yn cyfrif holl lyfrau'r Hen Destament yn ysbrydoledig, eto y Gyfraith yn unig a alwent hwy'n Sgrythur ac yn Air Duw. Nid oedd yr holl lyfrau eraill amgen nag esboniad dynion Santaidd Duw ar y