Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sgrythur. Y Gyfraith yn unig a ddarllenent hwy'n gyson ac yn rheolaidd yn eu synagogau. Yn awr ac yn y man y byddent yn darllen rhannau detholedig o'r Proffwydi, ac ni byddent yn darllen Salmau o gwbl yn eu synagogau, er eu bod yn canu Salmau yn y deml. Yn wir, yr oedd llyfr y Gyfraith yn eu golwg hwy gymaint santeiddiach na'r llyfrau eraill, fel nas cadwent ef yn yr un gist â hwynt-hwy. Yn y gwrthwyneb, yr ydym ni Gristnogion yn rhoi mwy o fri ar y Salmau a llyfrau'r Proffwydi nag ar y Gyfraith, am eu bod hwy'n fwy efengylaidd, ac felly'n debycach eu haddysg i lyfrau'r Testament Newydd.

Ond pa rannau o'r Hen Destament a feddylir wrth y Gyfraith? Y pum llyfr blaenaf a feddylir wrthi yn y testun, ac yn llyfrau diweddaraf yr Hen Destament; ond yn y llyfrau a sgrifennwyd cyn amser Hesecia, y Deng Air Deddf a feddylir wrthi'n gyffredin; ond weithiau y mae hi'n cynnwys Llyfr y Cyfamod, sef y llyfr sy'n cynnwys yr unfed bennod ar hugain o Ecsodus a'r ddwy bennod ddilynol. Weithiau hefyd y mae hi'n golygu'r Deng Air Deddf, ynghyd â'r holl ddeddfau oedd ar lafar a heb eu sgrifennu; canys yng nghof dynion byw ac nid mewn llyfrau y byddid yn trysori gwybodaeth hyd amser y proffwydi cyntaf. Nid yw'n debygol ddarfod i Foesen ei hun sgrifennu dim heb-