Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

law'r Deng Air Deddf ar ddwy lech;[1] er bod rhai'n barnu mai o'i enau ef y daeth cynnwys Llyfr y Cyfamod hefyd. Fel y mae Llyfr y Salmau'n gasgliad o'r holl salmau a wnaed hyd ddyddiau'r Maccabeaid, felly y mae llyfrau Moesen yn cynnwys yr holl ddeddfau a wnaeth offeiriaid Israel hyd amser Esra: a chan mai ar gyfraith Moesen y sylfaenwyd pob deddf ddiweddarach, yr oedd yr Iddewon, er mwyn cyfleustra, yn galw'r holl ddeddfau gyda'i gilydd yn gyfraith Moesen.

Er hynny, y mae'n amlwg i ddarllenydd gweddol graff fod yn llyfrau Moesen dair cyfraith, sy'n wahanol iawn eu hoedran a'u cynnwys. Y mae'r gyfraith gyntaf a symlaf yn gynwysedig yn Llyfr y Cyfamod, sef Ecs. xxi—xxiii; a honno a fu mewn grym hyd amser y Brenin Iosïa. Y mae'r ail gyfraith yn gynwysedig yn Llyfr Deuteronom;[2] a honno a fu mewn grym o amser

  1. "Nid yw'r Deng Air Deddf sydd yn Deuteronom ac yn y Testament Newydd yn gwbl gyffelyb i'r Deng Air sydd yn Ecsodus. Dengys hyn ddarfod eu newid a'u helaethu fwy nag unwaith. Y mae'n debygol mai fel hyn y sgrifennwyd hwy ar y cyntaf:
    1. Myfi yw Iafe dy Dduw.
    2. Nac addola dduw arall.
    3. Na thwng anudon yn fy enw.
    4. Cadw yn santaidd y seithfed dydd.
    5. Anrhydedda dy dad a'th fam.
    6. Na lofruddia.
    7. Na odineba.
    8. Na ladrata.
    9. Na cham-dystiolaetha.
    10. Na thrachwanta.
  2. Y mae'n amlwg oddi wrth i 5 a iv 41-43 mai rhywun oedd yn byw yng Ngwlad Canaan a sgrifennodd y llyfr hwn, canys y mae o'n cyfeirio at Moab, Gilead, a Basan, fel gwledydd tu hwnt i'r Iorddonen. Yn y Beiblau cyffredin yr ydys wedi cuddio hyn o beth trwy gam-gyfieithiad. Y mae'r cyfeiriad sydd yn y llyfr at y frenhiniaeth yn dangos mai yn amser y brenhinoedd y sgrifennwyd ef.