gysgu yn y stafell yr oedd arch Duw ynghadw ynddi; ac fe fuasai Solomon yn euog o farwolaeth am aberthu wrth gysegru'r deml. Ie, fe fuasai miloedd o dduwiolion Israel yn euog am aberthu yn Sichem, Bethel, Mispa, Offra, Gilgal, Rama, Gibeon, Hebron, Bethlem, Beerseba, Cades, Mahanaim, Tabor, a Charmel. O'r tu arall, ni buasai meibion Eli yn euog o un bai eglwysig am wneud yr hyn a wnaent wrth aberthu pe buasai'r gyfraith Lefiticaidd mewn grym; ac ni buasai gan Elias ddim achos i feio ar Ahab a'i dylwyth am ddinistrio allorau'r Arglwydd yng ngwlad Israel pe buasai'n hysbys fod yr allorau hynny'n anghyfreithlon.
Mewn gwirionedd, yr oedd esbonwyr yr oes o'r blaen, wrth daeru mai Moesen oedd awdur y gyfraith Ddeuteronomaidd a'r gyfraith Lefiticaidd, yn rhoi achos cyfiawn i anffyddwyr ddywedyd nad yw'r hanes a geir yn yr Hen Destament yn ddim amgen na chymysgfa o anghysonderau. Heblaw hynny, yr oedd yr esbonwyr hyn yn myned yn erbyn tystiolaeth eglur a phendant y Proffwydi eu hunain; canys y maent hwy'n dywedyd na roddwyd y deddfau aberthol ac offeiriadol yn yr anialwch "A offrymasoch chwi imi aberthau a bwyd—offrymau yn y diffeithwch?" ebe Amos; ac ebe'r proffwyd Ieremia yr un ffunud: "Ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchmynnais iddynt, y dydd y dygais hwynt allan o'r Aifft, am boeth-offrymau ac aberthau."