Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn enwedig y proffwydi cyntaf, yn fwy eang, a'u hathrawiaeth yn fwy ysbrydol nag athrawiaeth yr offeiriaid. Yr oedd rhai o'r proffwydi diweddaraf yn offeiriaid eu hunain, ac am hynny, yn rhoi mesur o fri ar aberthau a defodau eraill. Yn ôl y gyfraith offeiriadol, yr oedd Duw'n cyfrannu ei ras i Israel trwy'r offeiriaid; yn ôl y proffwydi, trwy'r gair yr oedd o'n cyfrannu ei ras. Yn ôl hen grefydd yr Israeliaid y proffwyd ac nid yr offeiriad oedd yn gyfryngwr rhwng Duw a dynion: "Pe safai Moses a Samuel ger fy mron (ebe Duw), eto ni byddai fy serch ar y bobl yma." "Yn ôl y proffwydi, yr oedd crefydd Israel (medd Robertson Smith) yn wahanol i grefyddau eraill, ac yn rhagori arnynt o achos nad ydoedd hi ddim yn grefydd aberthol."

Y llyfrau cysegredig y gelwid y trydydd dosbarth lyfrau'r Hen Destament, ond fe'u gelwid weithiau, fel yn y testun, yn Salmau; am mai Llyfr y Salmau oedd gynt yn sefyll ymlaenaf yn y dosbarth. Ar ôl y Salmau yn y dosbarth hwn, yr oedd y llyfrau Hebraeg a sgrifennwyd ddiweddaraf, ac a ystyrid yn lleiaf eu hawdurdod, megis y Diarhebion, Job, Ruth, y Galarnad, Daniel, Esra, Nehemia, a'r Croniclau. Ar ôl hir a chyndyn ddadlau fe benderfynwyd chwanegu at y llyfrau hyn Lyfr Esther, a'r Pregethwr, a'r Caniadau; a hynny'n bennaf am eu bod wedi eu sgrifennu'n