Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athrawiaethol ac yn farnol, a'r rhan fwyaf o rai Luc yn efengylaidd. Er bod yr efengylau yn cynnwys llawer o'r un pethau, eto y mae iddynt eu nodau neilltuol. Y mae efengyl Mathew yn hytrach yn Iddewaidd, ac efengyl Luc yn fwy dynol a chyffredinol. Felly nid oes odid ddameg yn Efengyl Luc heb fod yn llawn trugaredd ac ewyllys da tuag at bechaduriaid. Gan fod Luc yn gydymaith i'r Apostol Paul oedd yr yn naturiol iddo wneud ei efengyl yn efengyl maddeuant, a maddeuant a geir trwy ffydd.

O'r saith dameg a geir ym Mathew xiii, fe lefarwyd y pedair blaenaf wrth y gynulleidfa gymysg, a'r tair olaf wrth y disgyblion o'r neilltu. Gellir golygu Dameg yr Heuwr yn rhagymadrodd i'r chwech eraill, a gellir dosbarthu'r chwech hyn yn dri phâr, am fod pob pâr yn gosod allan yr un gwirionedd cyffredinol mewn gwedd wahanol.

Pâr 1. Yr efrau a'r rhwyd.
Pâr 2. Yr had mwstard a'r surdoes.
Pâr 3. Y trysor a'r perl.

Y gwirionedd mawr a ddysgir yn nameg yr heuwr yw bod dylanwad y Gair yn dibynnu ar ystad y galon. Min y ffordd, neu fin y llwybr sathredig oedd yn myned trwy'r maes. Wrth dir draenog y golygir, nid tir â pherthi drain yn tyfu arno ar y pryd, ond tir heb ei lwyr lanhau oddi wrth wraidd neu hadau drain.