Wrth dir da y golygir y rhan o'r maes oedd yn rhydd oddi wrth feiau'r rhannau eraill, ac felly ar unwaith yn rhywiog, yn ddwfn, ac yn lân.
Ni sonnir yn nameg yr Heuwr am wrandawyr hollol galongaled sy'n diystyru'r gair. Er bod min y ffordd a'r creigleoedd yn anfanteisiol iawn i dderbyn yr had, eto nid craig noeth ydyw'r naill na'r llall. Gwrandawyr difeddwl a dideimlad ydyw'r dosbarth blaenaf, eto nid at fod yn anobeithiol. Nid o ddiffyg gallu meddyliol mae eu hurtrwydd ysbrydol yn dyfod, ond o fod eu meddwl wedi myned yn sathrfa i ewyllysiau'r cnawd a syniadau bydol. Nid yw'r ail ddosbarth yn ddideimlad, ond y maent hwythau'n ddifeddwl. Y maent i'w canmol am dderbyn y Gair gyda llawenydd; am ei dderbyn heb ystyriaeth y maent i'w beio, a'r hyn sy'n profi eu bod heb ystyriaeth ydyw eu bod heb ragweled y blinder a'r erlid sy'n eu haros. Nid oes gan wrandawr o'r dosbarth hwn wreiddyn ynddo'i hun, hynny ydyw yn y cyneddfau sy'n cyfansoddi personoliaeth, sef y rheswm a'r gydwybod a'r ewyllys; y mae'r rhain yn aros yn galed, a gwraidd eu ffydd heb dreiddio iddynt. Yn eraill y mae ei wreiddyn ef, sef yn y brwdfrydedd sy'n meddiannu'r cyffredin. Enghraifft o'r dosbarth hwn oedd yr un a ddywedodd wrth Grist, "Mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych." Yr oedd diwygiad mawr ar hyn o bryd yng Ngalilea.