Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—siaredais bethau y dylaswn eu cadw i mi fy hun. Nid oedd yn lles

iddynt. Bum mewn blinder mewn canlyniad i hynny. Nid oes modd bod yn rhy ofalus. Gyda mwy o burdeb mewnol gall dyn fentro ei reddfau-a byw yn naturiol, fel y cana'r aderyn. Ond gyda chalon ddrwg fel sydd gennyf fi, ni all dyn ddweud popeth a ddaw i'w feddwl. Mae angen gwyliadwriaeth gyson ar air a myfyrdod.

Edrychai iddo'i hunan er yn fore, a dadansoddai'i gymhellion a'i ddiffygion heb gêl nac arbed. Yr oedd haen ddofn o gyfriniaeth yn ei natur. Fe welir oddiwrth yr Hunangofiant i honno gael ei mynegiant cyntaf yn ei gariad rhyfedd at olau dydd, ac ochrau'r mynydd, a'r ffridd, a'r ffrydiau; ochr arall iddi oedd ei ddiflastod at y lofa a'i thywyllwch. Parhaodd yr angerdd hwn at natur ar hyd y daith, fel y prawf a ganlyn:— Nodyn:Qote Pwy a feddyliai yn ei gwmni diddan, a than hud ei bersonoliaeth hawddgar, hamddenol, y gwyddai am frwydrau parhaus un nad oedd byth yn fodlon arno ei hunan, ond fe ddylid cofio hefyd fod i'r un galon ei gorfoledd eithriadol. Ysgrifennai ym mlwyddyn ei farw:—

Byddaf yn fy nal fy hunan yn canu ymron bob bore wrth godi o'm gwely, ac wrth wisgo. Nid oes gennyf lais canu, na dawn i ganu, ond fe dardd cân yn fy nghalon bob bore—emyn fel rheol, ac wrth ganu, teimlaf, fel rheol, ryw hapusrwydd a llawenydd rhyfedd. Gan fod yr Ysbryd Mawr yn cyffwrdd â'm hysbryd i, credaf mai ohono Ef y daw'r gân i'm calon.