Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fel y rhan fwyaf o'r cyfrinwyr gwybu erwindeb Ffordd y Puro a nosau anobaith ac amheuaeth yr enaid, a chafodd hefyd ei ran o groesau bywyd i'w dwyn ar ysgwyddau oedd ar brydiau'n ymollwng o dan bwys amhcuacth fewnol ; ond pyrth oedd yr oriau tywyll hyn i deml glaer y tangnefedd sydd uwchlaw deall. Ni ellir ymhelaethu ar hyn yma, a'r diben o grybwyll yr agwedd hon ar fywyd Ben Davies yw cacl cyfle i nodi a chofio mai cynnyrch y profiadau cyfriniol, cymysg, hyn yw ci emynau a'i gancuon crefyddol, y ceir detholiad ohonynt yn y gyfrol hon. Y profiadau eu hunain oedd y peth mawr iddo ef, ac nid oedd cu mynegiant na'u harddull yn cael cymaint sylw ganddo. Y mae stor helaeth ohonynt ar gael, ond nid ymdrafferthodd i'w perffeithio wedi i angerdd y profiad dreio, ond y maent yn werthfawr iawn er dilyn llwybr ci dyfiant ysbrydol. Fe'u canwyd ar "dymhorau o dywyllwch " ac ar oriau'r oruchafiaeth pan welai "ddôr tangnefedd Iôr yn agor yn y nef", ac y mae cu harwyddocâd yn llawer mwy bellach o ganfod mai " tyfiant " ydynt ac nid pethau gwneud wrth rym ewyllys a diwydrwydd ymennydd.

Am ei yrfa allanol rhydd yr Hunangofiant drem werth- fawr ar ci ddyddiau bore tan ci weinidogaeth gyntaf yn y Bwlchgwyn a Llandegla. Yn Chwefror 1891, dechreuodd ar ei waith fel gweinidog yn y Pant-teg, Ystalyfera. Yr oedd yn rhy ieuanc wrth fodd rhai o'r hen ddiaconiaid, ac ni chytunent â'r alwad. Nid ocdd yr eglwys wedi arfer bod yn gytunus iawn chwaith ers blynyddocdd, ond wynebodd y "llanc" yr anhawsterau 'n ddewr. Gorchwyl lled boenus i mi (meddai) am rai blynyddoedd ar ddechrau fy ngweinidogaeth fu llywyddu'r cyfarfod eglwys". Cynhelid ef ymron bob wythnos, yn ôl y galw. Deuai materion go ryfedd ger bron, ac edliw beiau, fel y bu yn orchwyl lled galed lawer tro i gadw pethau mewn trefn.

Ond dysgodd iddynt dangnefedd, a'r cyfeillion gorau a gafodd yn y man oedd y gwŷr hynny na fynnent cu alw atynt. Acth yr adeiladau'n rhy gyfyng yn fuan. Ad-