Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dafad yn rhedeg gyda glan y gwter, gan frefu, yn arwydd ddrwg. Deuid o hyd i gorff yr oen mewn tro yng nghornel y waen, fel rheol, a theflid ef i frig y llwyn, neu cleddid ef yn barchus yn y fawnen. 'Roedd bref y fam yn dorcalonnus. Cofiaf finnau wylo mewn cydymdeimlad â hi lawer gwaith.

Gyda dyfodiad Ebrill ai'r defaid i'r mynydd, a rhaid oedd cau Cae'r Mynydd" i'w rhwystro i ddod i lawr i bori'r caeau gwair. Bu helfa ddoniol ar ôl llawer lladrones. Deuai'r haf a'i ladd gwair, a'i gywain i'r ysgubor, a'i "fysgawnu"—(ei osod ar ei gilydd yn drefnus). Hyfryd oedd cysgu ambell noson yn y gwair, yn enwedig yn y gwair mân. Bum i a'm cyfeillion yn gwrthod y gwely lawer noson er mwyn cysgu yn y gwair. Dyna beth melys oedd deffro fore haf, ar y "fisgawn" wair, yng nghanol perarogl y maes, a sŵn yr afon yn torri'n ddwndwr diderfyn ar y glust. Gyda'r Hydref, deuai lladd a chywain rhedyn, i'w gosod dan yr anifeiliaid yn y gaeaf. Wedi cael y rhedyn dan dô, teimlid yn barod i dderbyn dydd byr y gaeaf, a'i ystormydd a'i rew a'i eira. Caeid y drws gyda'r nos, a chlywid sŵn y gwynt yn cwynfan, gan ddweyd fod y gaea'n dod.

Dylwn, fe ddichon, yn y fan yma, ddweyd gair am fywyd yr aelwyd, yn enwedig yr aelwyd hirnos gaeaf. Wedi gorffen gorchwylion y dydd, ar y fferm, ac yn y lofa; ac wedi i'r bechgyn—y glowyr, orffen ymolch—mor lân oedd yr aelwyd ac mor gynnes gwres y tân. Eisteddem o gylch y bwrdd bach crwn i ddarllen neu i ysgrifennu. Weithiau byddem yn cynnal cystadleuaeth darllen ar y pryd, neu areithio ar y pryd. Pan yn cynnal y cyfarfodydd hyn byddai bechgyn y tŷ nesaf" gyda ni fel rheol. William, fy mrawd hynaf, fyddai'r beirniad. Yr oedd ef yn ddarllenwr manwl, cyson, a chyfrifem ef yn oracl ar bob pwnc. Yr oedd ei lawysgrif yn lân odiaeth, a'i fanylder yn ddihareb yn ein plith. Byddai yn aml yn rhoddi dictation i ni, neu yn nodi darnau i'w copio o lyfr. Eisteddai