fy mam ar y fainc yn gwnïo—"cyweirio'r" dillad gwaith, neu'r hosanau, gan wrando, a thraethu ei barn. Ni fyddai John byth yn ysgrifennu, na darllen. Cymerai ran weithiau mewn araith ar y pryd, eithr fel rheol, pan elai'r gwaith hwn ymlaen, byddai John yn y gornel, yn naddu coes mandrel, gan chwiban un o ganeuon y lofa. Yr oedd ganddo ryw gân Saesneg, a chanai hi yn aml. Nid wyf yn cofio dim ond ei dechrau,-
Down in the coal mine
Underneath the ground, etc.
Cofiaf yn dda, fel y byddai yn ei chanu yn y bore wrth gychwyn i'w waith. Hoffwn ei wrando o'm gwely; clywwn ef yn myned dros y trothwy a thros gerrig y beili—a'r sŵn yn pellhau—"Down in the coal mine—"
Ond i fyned yn ôl at waith yr hwyr, wedi dwyawr o ddarllen neu ysgrifennu, rhaid cael tamaid o swper syml—bara llaeth, neu fwdran, neu sucan gwyn. Yna, âi fy rhieni i edrych os oedd popeth yn iawn yn y beudy, a rhoddent fwyd i'r da, wrth olau cannwyll bŵl, yn llosgi mewn lantern gorn. Wedi dod 'nôl, byddai fy mam yn atgofio fy nhad, am gynnal dyletswydd. Yr oedd fy nhad yn dueddol i anghofio—a John yn lled hoff o ddweud fod arno eisiau myned i'r gwely, gan fod fore; angen codi yn ond fel rheol, byddai gair fy mam yn llwyddo. Darllenai fy nhad Salm, yna diffoddai fy mam y gannwyll, a phlygai pawb ar ei gliniau. Syml iawn oedd gweddi fy nhad. Cofiaf rai ymadroddion,―soniai ein bod "oll wedi crwydro fel defaid, troisom bawb i'w ffordd ei hun "—hefyd, "ein bod wedi gwasanaethu'r creadur yn fwy na'r Creawdwr —a dim ond i Dduw ein cymryd dan ei adenydd" y byddem yn ddiogel. Wedi'r weddi ddwys, teyrnasai distawrwydd dros y tŷ, ail oleuai fy mam y gannwyll fach, ac ôl deigryn yn ei llygad. Yr oedd dwyster newydd yn wyneb fy nhad. Aem ninnau'r plant yn dawel wedyn, i fyny dros y grisiau cerrig—a chyn pen ychydig funudau yr oeddem oll yn cysgu'n dawel dan gysgod aden Duw.