Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un ystafell oedd y llofft, ac yr oedd yno'n fynych bedwar gwely. Yr oedd yno dri un ochr, a'r naill a'i draed wrth ben y llall,—fel rhes o gerbydau. Byddem yn saith yn cysgu yno'n aml, ac nid oedd i'r ystafell ond un ffenestr fechan—dau gwarel, ac nid oedd honno yn gallu agor! Ond yr oedd llawr y llofft yn lled gyfoethog o dyllau i'r awyr ddod drwodd.