Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"I sing the sofa, I who lately sang
On Truth, Hope, and Charity."

Gadawer i mi weled, pa le mae'r pedwar llanc—

Mae Ebenezer yn ei fedd; bu farw ymhen rhyw ddwy flynedd wedi hynny—llanc talentog oedd ef, a gweithiodd yn rhy galed i ateb corff gwan.

Ifan—mae yntau hefyd yn ei fedd. Bu ef yn fasnachwr cyfrifol unwaith yn un o gymoedd y Garw, dirywiodd, a bu farw yn dlawd, a lled ddiamddiffyn. Cofiaf ymweled ag ef yn ei gystudd, a golwg druenus iawn ar bopeth o'i gylch.

Morgan: mae ef yn fyw, pan yr ysgrifennir y llinellau hyn; ond y mae ei iechyd yntau wedi rhoddi ffordd i raddau, wedi byw bywyd lled afradlon.

Tom mae ef yn Ficer yng ngogledd Sir Aberteifi, ac yn un o'r dynion caredicaf ei ysbryd yn yr holl wlad, ac wedi gwneud diwrnod o waith rhagorol. [1]

Daeth dydd arholiad y candidates. Aethom ein pump i Dreforris a dyna'r tro cyntaf i mi fod yno. Dychrynwyd fi gan faint yr ysgoldy, a'r swyddogion meistrolgar yn cerdded yn ôl ac ymlaen, a'u parseli yn eu dwylo, ac yn siarad mor awdurdodol, a dim gair o Gymraeg. 'Rwy'n sicr fod fy atebion i yn erchyll. 'Roedd y pennill i'w ramadegu (parsio) yn dechrau fel hyn :

Rome for empire, far renown, Tramples on a thousand state.

Cymerais innau Rome yn 'roam '—a gosodais ar ei gyfer: Transitive Verb!

Wedi gorffen yr arholiad aethpwyd i lawr i Aber Tawe at lan y môr yn ôl gorchymyn Mr. Roberts,—a daeth yntau i'n cyfarfod yno.

Ymhen ychydig wythnosau daeth gwybodaeth am ganlyniadau yr arholiad. Dim ond un wedi pasio—Tom—

  1. Y Parch. T. Noah Jones, ficer Eglwys Yr Hafod, Ceredigion.