yr oedd ef yn llawer gwell Sais na'r un ohonom. Daliodd Ebenezer ati er mwyn cynnig eilwaith. Aeth y gweddill ohonom adref. Wrth edrych yn ôl difyr yw gofyn, beth pe buaswn yn pasio'r arholiad?
Wele fi eto'n rhydd, ar y caeau a'r mynydd, yn cerdded llwybrau'r defaid, ac yn codi ambell glawdd. Ond, Och fi! erbyn hyn, y mae hen bwll Cwmllynfell wedi ail ddechrau, ac y mae fy nhad yn anesmwyth yn ei awydd am i mi ennill rhyw geiniog i helpu'r ffarm.
Dyma fi eto yn myned i ofyn am waith, ac yn ei gael, ac wele fi yn ôl yn y dyfnder du, wrth yr hen orchwyl diflas, di-ynni o ddryso'.
Mae fy mrodyr yn y Rhondda, yn ennill gwell arian, a minnau yma'n llanc tua thair ar ddeg oed, yn unig yng nghanol gweithwyr dieithr i mi, parod hefyd i halogi bywyd yr ieuanc, a gwneud pob difyrrwch am ei ben.
Annymunol iawn a fu'r 'dryso' y waith hon. Yr oeddwn yn gorfod dilyn yr haulier gyda'r gwahanol siwrneion ar hyd y gwaith'; a chan fod y ceffyl yn un ieuanc a gwyllt, heb ei dorri i mewn i weithio dan y ddaear, yr oeddwn yn gorfod ei arwain i fyny'r heading, gan ei fod am redeg yn ormodol pan na fuasai ond un ddram wâg yn llwyth iddo. Ciciai fi, a chnoai fi'n alaethus weithiau, ac nid oedd lle i ddweyd fy nghŵyn; gan fod yr haulier yn fwy dideimlad na'r ceffyl. Yr oedd y ceffyl yn fy nghnoi a'm cicio ond yr oedd yr haulier yn fy rhegi, gan daflu'r sprags at fy mhen. Yr oedd sŵn rhegfeydd felly yn brathu ysbryd tyner llanc o ganol cysegredigrwydd y mynydd, ac yr oedd cynnig fy nharo â'r sprags, yn codi awydd ynof i redeg adref. Ni chynigiais daro 'nôl. Gwnai rhai o'r bechgyn hynny. Ond yr oedd y ddyletswydd deuluaidd, ac ysgol Sul y tyddyndai, a'm haelodaeth grefyddol yn sefyll rhyngof â tharo'n ôl. Cofiaf hefyd, un tro wedi ceintach mawr a thafodi, a chynnig at fy nharo, i mi benderfynu y buaswn ryw ddiwrnod, ryw—bryd, os byth y deuwn yn ddigon cryf, yn rhoddi curfa