Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dro arall, deuai yr haulier allan o flaen y ddram o un o'r talcenni glo, a phan yn dod allan i'r heading, lle yr oedd mwy o oriwaered, yr oedd haulier arall i sprago'r wheel. Methodd уг ail haulier a sprago. Yr oeddwn innau yn sefyll ger y drws, ac yn edrych i fyny'r heading-gwelwn y ddram, yn dod yn gyflymach, gyflymach,—gwybu yr hwn oedd o flaen y ddram fod ei gyfaill wedi methu sprago. Nid oedd dim o le iddo i neidio i'r ochr, gwasgai'r ddram yn fwy-fwy, a theithiai yn gynt! Gwaeddodd am help. Clywais ef yn dolefain "mam, mam"—a syrthiodd dan y ddram, aeth hithau drosto, gan ddymchwelyd yn bentwr yn ymyl y drws. Ar amrantiad, yr oedd y glowyr yno wrth y degau,—cludwyd ef allan yn fyw,-clywaf ei ocheneidiau yn awr! Dygwyd ef i dŷ ei fam, ac ni fu yn hir cyn gorffen ei yrfa ddaearol.

Nid wyf am fanylu ar fy ngwaith yn torri glo, ond cofiaf i mi ddechrau gyda dau hen lowr profiadol,—yn deall y grefft yn dda. Efallai, na fu i mi air da fel glowr, ond yr wyf yn sicr i mi ddysgu'r grefft a gweithio'n galed. Tybiai'r ddau lowr y cyfeiriais atynt, fy mod yn hoff o farddoniaeth, ac weithiau, pan na fuasai galw mawr, rhoddent fi yn rhydd o lanw glo am ysbaid, ar y telerau fy mod yn gwneud pennill. Hwynthwy oedd yn rhoddi'r testun! Gwneid y pennill yn ddieithriad, a chafwyd llawer awr ddifyr. Caeodd 'hen bwll' Cwmllynfell cyn hir, a bum yn gweithio wedyn yng nglofeydd Hendre Forgan, Bryn Morgan, a Bryn Henllysg. Trafferthus iawn fu gwaith Bryn Morgan. Nid oeddwn yn ennill ond. y peth nesaf i ddim yno, er yn gweithio yn lled galed. Un tro penderfynais i a'm cyfaill weithio drwy'r nos, er mwyn gwneud lle clir i fyned at y glo erbyn bore drannoeth. Tua deg o'r gloch diffoddodd lamp un ohonom, ac aethom ill dau yn ôl ymron at waelod y pwll, i le di-berygl, er mwyn agor un lamp i oleuo'r llall. Ond pan yn' estyn y lamp a'r golau i gyffwrdd y lamp arall diffoddodd! Buom ein dau yn y tywyllwch dudew drwy'r nos. Nid