oedd neb yn y lofa ond nyni y noson honno. Aed i ryw gornel i lechu hyd adeg dyfodiad y fireman tua chwech o'r gloch y bore!
Cyrhaeddais waith Bryn Henllysg pan rhwng pymtheg ac un-ar-bymtheg oed. Dechreuais weithio yma gyda'm brawd Tom. Aeth ef cyn hir i'r America, ac y mae yno yn awr (1923) yn ddedwydd a llwyddiannus.
Bum yng ngwaith Bryn Henllysg hyd nes troi ugain oed. Edrychaf ar y cyfnod hwn fel un tra diddorol a buddiol a dedwydd. Nid oedd y gwaith yn galed. Gweithiem yma gyda 'golau noeth', ac nid 'lamp dân'.
Llusgo cart, a llanw'r ddram a fu fy ngwaith pennaf yma ar hyd yr amser. Gweithid yn ôl y drefn a elwid yn 'talcen cul'. Ni allaf fanylu yma ar y drefn yn y dyddiau hynny. Yr oedd dadl yn aml ymhlith y glowyr, pa un talcen cul' neu yntau long work oedd y gorau. Rhaid oedd carto yn y talcen cul. Nid oedd y ddram yn dyfod o'r heading. Llusgid y glo o'r face i lawr at yr heading, i le a elwid y 'tip', ac o'r fan honno y llenwid y ddram. Gwaith hefyd oedd llanw o byddai digon o lo ar y tip.
Yr oedd awyrgylch lenyddol i'r Lofa honno, a deuthum yno i gyfarfyddiad â Nathan Twrch, Ieuan Twrch, Dewi Glan Twrch, Michael Thomas, Y Doctor, ac nid y lleiaf— J. D.Williams, Rhiwfawr, a Joseph Williams, Cwm-Twrch. Gwleidyddwr mawr oedd Joseph Williams, llenor a cherddor oedd J. D. Williams, beirdd oedd y lleill. Ym mhlith y cerddorion yno y pennaf oedd D. W. Rowlands, a ddaeth wedi hynny yn awdur darnau o safon, megis—"Glaniad y Ffrancod "ac "Olwen Plas Gwyn"
Yr oedd yno hefyd elfen grefyddol iawn, gan fod rhai o hen dduwiolion syml y fro yno-saint diamheuol : Dafydd Gynol, a William, Noah Jones, Dafydd Ddôl Gam, J. Powel (Ger Gwys), etc. Os caf gyfle i ysgrifennu ychydig am y capel, caf sôn am weddiau rhai o'r uchod, ac yr oedd dwyster eu gweddiau ar eu gruddiau yn y lofa.