PENNOD IV
ARGRAFFIADAU CREFYDDOL
RHAID i mi yn awr ddyfod at haen ddyfnach a gwell yn fy mywyd, na'm hoffter o farddoniaeth—sef fy ngogwyddiadau crefyddol ac ysbrydol.
Cyfeiriais at yr Ysgol Sul ar hyd y tai". Un o'r pethau mwyaf swynol i mi oedd dysgu darllen y Test— ament bach', a gwybod sawl Mair a loan oedd ynddo, ac er fy mod yn ddigon aflonydd yn y dosbarth yn fynych, a blin gennyf yn awr i mi beri cymaint gofid i'm hathraw, eto ai'r gweddiau i'm calon, a chodai'r canu fi " ymhell uwch sŵn dacarol fyd". Nid oedd 'Newyrth Dafydd o'r Felin yn ddirwestwr, a byddai'n lled dueddol i lithro, ond er i mi ei weled dan ddylanwad y ddiod feddwol nos Sadwrn, yr oedd ei ganu prynhawn Sul yn rhywbeth effeithiol iawn i mi. Gafaelai yn y line neu'r bach dan y llofft, a chauai ei lygaid a chanai, a dyblai, nes tystio ohonof fod ei enaid yn nofio mewn maddeuant a hedd.
Byddai'r bechgyn weithiau yn canu ar y twyn cyn dechrau'r ysgol, neu ar ôl yr ysgol, a disgynnai'r gerdd yn fawl ar awel dirion yr haf.
Yn rhywle tua'r adeg hon dechreuais ddarllen y Beibl, gan ddechreu yn Genesis, ac euthum drwyddo i gyd. Yr oedd rhannau helaeth ohono'n dywyll hollol i mi; er hynny, yr oedd rhyw fwynhad addoliadol mewn myned drwyddo. Yr oeddwn yn hoffi'r adnodau cywrain, megis lle yr ail adroddir ymadrodd prydferth a chnap dan bob caingc o hono "; neu gynghanedd gudd, megis "Enw y drygionus a bydra". Ond yr oedd ynddo rywbeth mwy na hynny. Teimlwn ryw bresenoldeb gyda mi pan yn athro, ac fel gwein-