"Ma Lewis—a Marged hefyd yn dwli ar daten a chig, ac fe fydd eisie bwyd arnyn' nhw wedi trafaelu," ebe'r fam.
Daeth Ester Elen â'r ffwrn fach o'r rwmford a'i hongian gyda'r bachau ar y linc uwch ben y tân.
"A wyt ti'n siŵr na roist ti ddim gormod o ddŵr gyda nhw? Ma Lewis yn 'u leico nhw wedi rhostio tipyn."
Yna fe roes Mali Lewis ar wyneb y tato sleisiau meinion o gig moch, ychydig wynwyn wedi eu torri yn fân, ac ychydig bupur a halen. Yn fuan fe ddaeth aroglau sawrus i ychwanegu at gysur y gegin.
"A fydd y ford rownd yn ddigon, mam?"
"Na fydd. Ma nhw'n bump. Ma'n rhaid i'r ddwy los fach gal bwyd hefyd, cofia. Fe dynnwn y ford arall i ganol y llawr a hongian y lamp uwch 'i phen, a rho liain arni."
"Lliain?"
"Ie, am heno."
Pan glywyd sŵn y cart ar y lôn yr oedd popeth yn barod. Daeth y plant i mewn am y cyntaf. Ar riniog y drws, cyn cyfarch ei fam, dywedodd Lewis:
"O! Ma ffest 'ma!"
"Mam!" ebe Marged, a rhoi cusan yn gymysg a deigryn ar rudd ei mam. Yr oedd wedi dyheu am gael mynd i'r ysgol, ond O'r mwynhad o gael dyfod adref eto! Rhag i neb weld gormod o'i theimlad aeth i dwymo a dweud:
"Mae'n neis gweld tân. Yr oedd hi'n oer yn yr hen gart 'na."
Wrth fwyta'r ffest fe deimlai Lisi Ann a Miriam adlewych o ogoniant eu chwaer arnynt—o gael bwyta oddi ar ford â lliain arni, a chael plat yn lle'r trensiwrn arferol.