PENNOD II
ER cymaint a fu'r paratoadau ar gyfer eu croesawu adref, drannoeth eu dychweliad bu'n rhaid i Lewis a Marged ymddiosg o'u huchafiaeth a'u boneddigeiddrwydd a gwneud a allent fel y plant eraill i helpu gyda gwaith y fferm a'r tŷ. Digwyddai hwnnw fod yn ddiwrnod eithriadol brysur yn Ffynnonloyw fel yn holl ffermydd eraill yr ardal. Diwrnod plufio ydoedd. Y sŵn cyntaf a drawodd ar glustiau Marged y bore hwnnw oedd ysgrechain dychrynedig gwyddau ar y clôs, a llawer o gerdded a siarad yn y gegin oddi tani. Fe deimlodd â'i llaw am Ester Elen a gysgai yn ei hymyl a deallodd ei bod eisoes wedi codi. Y funud nesaf daeth Ester Elen i ddrws yr ystafell a channwyll yn ei llaw a dweud dipyn yn geintachlyd:
"Dere, Marged, cwyd. Fe wyddost 'i bod hi'n ddiwrnod plufio. Cwyd i helpu rhoi brecwast i'r men'wod. Ma Ffani'r Go, a Martha'r Bwlch, a Leisa'r Llain 'ma, a ma tê i fod iddyn nhw."
"Tê sydd i fod inni i gyd?"
"Tê, wir! Nage. Cawl llath fel arfer."
Rhoes orchymyn aneffeithiol i Lisi Ann a Miriam, a gysgai yn y "gwely codi " yn yr un ystafell:
"Sefwch chi'ch dwy yn y gwely. Ma digon o waith 'ma heddi heb i chi'ch dwy fod ar ffordd."
Yr oedd y ddwy wedi dechrau gwisgo'n frysiog cyn iddi orffen siarad. Iddynt hwy yr oedd mwy o gyffro a phleser ar y diwrnod plufio na hyd yn oed ar ddydd Nadolig a dydd Calan.