Gan i Caird fy nghymell i fynd i mewn am Anrhydedd mewn Athroniaeth, ac i minnau gydsynio, treuliais wyliau'r haf dilynol—ac yr oedd gennyf dros chwe mis o wyliau!—i ddarllen y llyfrau neilltuol a oedd i'w meistroli. Cefais fudd a mwynhad anghyffredin yn y porfeydd breision hyn—rhai a oedd yn eu manylion yn newydd i mi; ond y llyfr a ddaeth â mwyaf o ysbrydoliaeth i mi yn ddiau oedd Prolegomena to Ethics yr Athro T. H. Green. Yr oedd yn anodd iawn ar y cyntaf, ar gyfrif ei gynnwys a'i arddull, ond dug yr ymdrech i'w feistroli, a'r weledigaeth wedi ei feistroli (i fesur, o leiaf) dâl cyfoethog gyda hi. Yr oedd rhywbeth yn debyg i'r profiad a gefais unwaith drwy ddringo'r Wyddfa drwy niwl tew ac yna ddod allan ar ôl ymdrech ddygn i oleuni haul, a gweld Ynys Fôn dros ben y niwl a guddiai Arfon yn gorwedd draw ar fynwes y weilgi.
Yr oedd yr athrawiaeth bod hyd yn oed Natur yn golygu egwyddor uwch-naturiol, nid y tu allan iddi ond yn weithgar ynddi; a bod gwybodaeth a moesoldeb yn golygu datblygiad graddol ynom o ymwybyddiaeth o order dragwyddol; a chan na all y fath order fodoli heb Ymwybyddiaeth Dragwyddol, bod y fath Ymwybyddiaeth yn bod ac yn ei hatgynhyrchu ei hun ynom ni dan amodau ein natur feidrol: yr oedd y fath athrawiaeth, nid yn unig yn cael ei chyflwyno fel damcaniaeth ond hefyd ei gweithio allan gyda gallu rhesymegol anwrthwynebol, yn fy nghodi yn y cwbl ohonof, gorff, meddwl, ac ysbryd, i fyd o gymysg swyn a sylwedd, nas dychmygaswn o'r blaen ei fod yn fy ymyl.
Fel y sylwyd uchod, morwyn i'm bywyd ysbrydol y golygwn i athroniaeth fod ar y cyntaf, ond yn