raddol tueddai i'm meddiannu yn gwbl iddi ei hun. Y mae'n amlwg fy mod yn teimlo hynny, gan i mi osod i lawr yn y Beibl a ddefnyddiwn yn Glasgow gofnodiad o ymgysegriad newydd i'r Arglwydd dan y dyddiad Tachwedd 19, 1887. Fod bynnag, bu'r blynyddoedd dilynol hyd 1891 yn flynyddoedd o forio ymlaen dan lawn hwyliau ar lif athroniaeth. Nid yw'r ffigur o lif mewn perthynas ag athroniaeth yn taro'n naturiol ar glustiau pawb, ond felly yr oedd i mi yr adeg hon. Nid iswasanaethgar i fywyd ydoedd mwyach, ond bywyd ei hun teimlwn fy mod yn fy nghael fy hun ynddi. O gymharu'r cyfnod â'r un barddol gynt, yr oedd yr ymsylweddoliad a brofwn yn ddyfnach a chyfoethocach: teimlwn fy mod yn nes at galon a gwirionedd pethau, a bod bywyd mwy yn eiddo i mi.
Ni allaf lai na chyfrif yr hafau hynny (1886-7-8) ymysg hafau mwyaf uchel—blesurus fy mywyd. Er bod gennyf dros chwe mis o wyliau, gwyliau oeddynt i weithio, ac yn fwy o wyliau oblegid hynny. Yr oedd i hyfrydwch Natur hyfrydwch ychwanegol newydd i athronydd ieuanc nid llai o fwynhad haul a sêr, nef a daear, maes a môr, a gâi na phobl oedd yn eu mwynhau eu hunain ar lefelau is, ond mwy. Yr oedd llaw ddeddfol arholiad yn ddiau i fesur ar yr haf cyntaf, ond nid yn hollol, gan fod digon o le i nofio'n ddiwarafun yn Plato, a Spinoza, a Kant, ac eraill. Yr hafau dilynol yr oeddwn at fy rhyddid i ymgydnabod â systemau eraill, i'w beirniadu a chael fy meirniadu'n ddeallol ganddynt. A phan fo myfyriwr o unrhyw allu cynhenid yn ymgolli mewn astudiaeth o gyfundrefnau athronyddol, ni all na bydd rhyw gyfundrefn o'i eiddo ei hun yn ymffurfio yn