ei feddwl, er bod ei phrif linellau, efallai, wedi eu cymryd o'r system neu systemau a apeliodd fwyaf ato.
Nid fel llyfrbryf yn y tŷ y treuliwn yr amser, ond yn yr ardd dan gysgod coeden, neu ar fryn uwchlaw'r tŷ, ar lannau afonydd, ac yn aml yn unigrwydd y goedwig, ac ar lan y môr. Fel hyn y deuthum i'r gyfathrach ddyfnach â Natur y cyfeiriwyd ati ym Mhennod II, ac y trodd athronyddu yn fath ar fywyd ac nid ymarferiad deallol yn unig. Gan mai delfrydiaeth Caird a Green a'm swynai fwyaf, perthynas y Tragwyddol" â Natur neu ryw agwedd arni oedd testun fy myfyrdod gan amlaf, ac wedi bod yn ymgodymu am oriau â rhyw ddyryswch, a chodi o'm heistedd a'm hamdden, yr oedd ffordd gan "y Tragwyddol" i ddyfod ataf ar hyd llwybr arall, fel pe dywedasai: "Ni elli ddod o hyd i mi drwy ddeall; nid gwrthrych wyf i i'w ddarostwng i esboniad, ond os mynni gyfeillachu â mi, ti gei." Y mae'r gwmnï- aeth nefol a gawn yr hafau hyn yn gwbl anhraethadwy—ni all geiriau ei disgrifio i'r sawl sydd hebddi, ac nid oes eisiau geiriau ar y neb a'i cafodd. Dywaid Byron hyd yn oed fod y gyfathrach a gâi ef â Natur yn gwbl anhraethadwy:
There is society where none intrudes
. . . . . . . . . in which I steal
From all I may be or have been before,
To mingle with the universe, and feel
What I can ne'er express. . . . . . .
"Presence"—"nid person" penodol—fyddai'r gair gorau i ddisgrifio'r hyn y deuwn i fath o gyfathrach