I berthynas fwy effeithiol â Gallu felly y ducpwyd fi yn fy nghyfnod diweddaraf: deuthum heibio i'r berthynas â'r Cyfanfod amhersonol a gyfryngir gan y dychymyg a'r deall, i berthynas bersonol ddyfnach â Duw a gyfryngir gan yr ewyllys a'r galon. Yr oedd y flaenaf yn codi dyn yn ddychmygol allan ohono'i hun, a byd amser a lle, ond nid oedd a fynnai lawer â" barnu meddyliau a bwriadau y galon." Eithr yn awr, oherwydd fy ymgyflwyniad i Grist fel fy Arglwydd, a'r ymdrech i sylweddoli'r delfryd Cristnogol o gymeriad, deuthum i weld bod eisiau glanhau ffynonellau yn gystal â rhediadau bywyd. Daeth y berthynas bersonol aruchel â Duw yng Nghrist yn brif ryfeddod bodolaeth ac yn brif ysgogydd dyhead a gweithrediad. Nid rhyfedd, felly, iddo fynd yn ganolbwnc fy mhregethau.
Y mae i'r bydysawd, yn ddiau, le pwysig a hanfodol mewn crefydd—fel y mae i ddychymyg a deall le cyffelyb yn ein natur—am ei fod yn ddatguddiad rhannol o Dduw. Y mae'r Beibl yn ei bwysleisio, megis pan ddywaid fod y nefoedd "yn datgan gogoniant Duw a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylaw Ef," a llawer o ddatganiadau cyffelyb. Ffurfia'r apêl at y dychymyg ran werthfawr hefyd o'r gwasanaeth crefyddol, yn neilltuol y rhannau cerddorol—a llawer o bregethau yn wir. Yr hyn sydd o bwys yw cadw'r rhan hon yn ei lle iswasanaethgar o helpu'r addolwr i blygu ei ewyllys i Dduw. Y mae tuedd gyson i'w wneud yn brif beth—y mae gymaint yn rhwyddach na dod ar yr allor. Enghraifft nodedig o hyn oedd y "moliannu" yng nghymanfaoedd Cymru nad arweiniai i santeiddrwydd o gwbl, am y tybiai y cnawd fod amcan crefydd wedi ei gyrraedd.