Mynn rhai beirdd, llenorion, gwyddonwyr, etc., gyfyngu eu crefydd i'r diriogaeth hon yn unig. Ai Carlyle allan i addoli "in the temple of immensity," chwedl yntau, a cholli gwynfyd bendigaid y gwir gysegr, er na wyddai ef mo hynny—ac ni fynnai dreio. Yr hyn sydd yn syn yw bod y "doethion a'r deallus" yn ddall i ddyfnion bethau Duw, a lluoedd O "rai bychain" yn eu gweld a'u gwerthfawrogi. Y gwir, y mae'n debyg, yw, bod y porth yn rhy gyfyng i'w mawredd hwy—y sydd yn fawredd yn unig o safbwynt yr oes bresennol. Buasai Carlyle yn fwy dyn pe cydymffurfiasai â safonau ymarferol crefydd ei fam a'i dad, yn un rhwyddach cydfyw ag ef, ac yn llai o edmygydd o Frederic Fawr a gwroniaid grym.
Ar y llaw arall, y mae rhai megis Karl Barth a'i ysgol yn dibrisio tystiolaeth y bydysawd i Dduw, a gwerthfawredd ei ddatguddiad ohono, yn ormodol. Ar sail fy mhrofiad personol, yn ychwanegol at ystyriaethau ysgrythurol ac athronyddol, ni allaf lai na chysylltu gwerth amhrisiadwy â'r datguddiad dechreuol hwn. Y mae'n wir na allwn resymu i fyny ohono i'r datguddiad o ras Duw yng Nghrist, ond nid yw hwnnw yn ei gondemnio ond fel cystadleuydd am y gwerth uchaf, a'i ogoneddu yn ei le. Nid wyf am drafod y mater yn llawn yn y fan hon: dichon fod digon wedi ei ddweud i ddangos perthynas y datguddiadau hyn â'i gilydd fel y mae yn bod yn fy meddwl i ar sail profiad diriaethol.
Ond beth yw perthynas y cyfnodau hyn eto â'r profiad arbennig a gefais yng nghyrddau Drummond? Yr wyf wedi crybwyll eisoes i'r profiad hwnnw o Grist glirio fy ngolygon i weld Duw yn Natur yn fwy clir a llawn, ond beth yw ei berthynas â'r pro-