i fyned rhagddynt ar hyd ol traed y praidd, a bod yn ddylynwyr i'r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu yr addewidion. Dywedodd Crist am y wraig a eneiniodd ei gorff, "Pa le bynag y pregethir yr efengyl yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd er coffa am dani hi." Yn yr hyn a ddywedir uchod golygai yr ysgrifenydd yn ddiameu dduwiolion a rhai rhagorol mewn gras yn gyffredinol, pa un bynag a fyddent mewn swyddau yn yr eglwys neu beidio. Ac yn ychwanegol, am swyddogion y mae genym orchymyn penodol yr Apostol at yr Hebreaid, Heb. iii. 5—"Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw, ffydd y rhai dylynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Lle byddo blaenoriaid ysbrydol a theilwng yn yr eglwys yn cael lle mawr yn meddyliau y bobl tra byddont yn myned i mewn ao allan yn eu plith, nis gallant lai na chofio am danynt ar ol eu hymadawiad. Pa mor ffyddlon bynag y byddo gweision Crist dros eu tymor ar y maes, nid ydyw eu hamser ond byr iawn; gyda'u bod megys yn dechreu ar eu defnyddioldeb gyda'r gwaith gelwir hwynt oddiwrtho i roddi eu cyfrif. Er hyny, y rhai a dderbyniasant yr efengyl trwyddynt, ac sydd yn dal yn eu cof a pha ymadrodd yr efengylasant iddynt, nis gallant beidio meddwl am danynt ar ol myned i orphwys, "gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."
Y mae yn debyg nag oes un genedl ag sydd yn meddu gradd o ddysgeidiaeth wedi bod yn fwy difraw a diofal am gadw coffadwriaeth o wroniaid eu cenedl na'r Cymry. Gwir yw iddynt fod am oesoedd lawer yn dra amddifad o fanteision er helaethu eu gwybodaeth; nid oedd braidd neb o'r bobl gyffredin dri chant o flynyddoedd yn ol a fedrai air ar lyfr, a llawer llai yr oesoedd cyn hyny, ac nid oedd am amser maith wedi hyny ond ychydig o lyfrau Cymreig yn argraffedig; ond erbyn hyn y mae'r addewid yn dechreu cael ei chyflawni, "Llawer a gyniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Y mae yn wir fod breintiau ein cenedl yn bresenol yn bur halaeth; gall yr Arglwydd ddyweyd gyda'r priodoldeb mwyaf am ein gwlad megys y dywedodd gynt am ei winllan, "Beth oedd i'w wneuthur yn ychwaneg i'm gwinllan nag a wnaethum ynddi ?" Y mae yn ddiau mai i'r rhai y rhoddir llawer iddynt y gofynir llawer ganddynt.. Y mae y rhai a geisiant ddarllen er buddioldeb yn barnu fod y Beibl a llawer o lyfrau da ereill yn llesiol i'w darllen, ond ystyriant fod darllen llyfrau hanesyddol yn gwbl ddiles ac afreidiol. Nid ydyw y cyfryw yn ystyried fod y Beibl, neu ran fawr o hono, yn hanesyddol a bywgraffyddol, fel y gwelir yn yr Hen Destament a'r Newydd. Hyderwn nad oes neb a addefant ddwyfoldeb yr Ysgrythyrau yn edrych ar y rhanau hanesyddol o hono yn ddiles ac afreidiol, canys y mae holl Air Duw yn bar. Pe na buasai genym ond y rhanau athrawiaethol yn unig o'r Ysgrythyrau, pa fodd y delem i wybod pwy a greodd y byd, ac yn mha gyflwr y cafodd ein rhieni cyntaf eu gosod ynddo cyn y cwymp? y modd y syrthiasant o uchder dedwyddwych i ddyfnder trueni, yn nghyd a'n holl hiliogaeth i'r unrhyw bydew erchyll? Oni buasai i'r Beibl roddi i ni hanes am y cwymp a'r twyllwr, sef diafol, ni fuasai genym wybodaeth sicr, ond rhyw draddodiadau anmherffaith wedi dyfod i waered o dad i fab; ni fuasai genym unrhyw ddarluniad cywir am y dylif, dim ond rhyw ddychymygion cyfeiliornus, megys ag y sydd gan y paganiaid hyd heddyw, oni buasai Gair Duw. Yn y Beibl yr ydym yn cael hanes aneirif bethau tra rhyfedd a ddygwyddasant yn yr amseroedd gynt, megys gwaith Abraham yn aberthu ei fab Isaac, amgylchiadau trallodus Joseph, gwyrthiau Moses, teithiau yr Israeliaid, y Môr Coch yn agor o'u blaen a hwythau yn myned drosodd ar dir sych, boddiad Pharao, dyfroedd yr Iorddonen yn troi yn ol, yr aberthau, y babell, teml Solomon, Jonah yn mol y pysgodyn, Dafydd yn lladd y cawr, y tri llanc yn y ffwrn dân, Daniel yn ffau y llewod. Ni fuasem ychwaith yn gwybod dim am Gyfryngwr y Testament Newydd oni buasai yr hanes a roddwyd am dano i ni gan yr Efengylwyr—ei genedliad goruwch—naturiol, ei enedigaeth, ei demtasiynau, ei wyrthiau, ei ddyoddefiadau annhraethol, ei angeu, ei gladdedigaeth, ei adgyfodiad buddugoliaethus, ei esgyniad gogoneddus, a'i ddyfodiad i farnu byw a meirw yn y dydd diweddaf. Ni fuasem ychwaith yn gwybod dim am yr Apostolion, eu teithiau blinion, yr erledigaethau creulawn a ddyoddefasant, a'r gwaredigaethau a gawsant, yn nghyd â llwyddiant eu gweinidogaeth. Nid oes yr un hanesyddiaeth i'w chystadlu a'r hyn a adroddwyd gan ddynion sanctaidd Duw, y rhai a lefarasant megys y cynyrfwyd hwynt gan yr Ysbryd Glan. Eto, y mae hanesiaeth yr eglwys, yr ystormydd blinion yr aeth trwyddynt, a'r erledigaethau creulawn a ddyoddefodd Gweinidogion ffyddlawn Crist yn Nghymru, llawer o ba rai a gymerasant eu curo a'u hyspeilio