Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn epil Sem, o ganlyniad, deallwn fod yr Hebreaid yn cael eu henw oddiwrth Heber, gor— wyr Noa; deallwn hefyd i Ashur roddi ei enw i'r Assyriaid, y rhai a ddeilliasant oddiwrtho; Elam a roddodd ei enw i'r Elamitiaid, trigolion Persia—gelwir hwy felly yn Actau yr Apostoiion; ac Aram a roddodd ei enw i'r Aramitiaid neu y Syriaid; ar ol hyny cafodd y Moabiaid en henw oddiwrth Moab, yr Amoniaid oddiwrth Benamoni, a'r Edomiaid a gawsant eu henw oddiwrth Edom, sef Esay. Yn hiliogaeth Ham, rhoddodd Misraim ei enw i wlad yr Aifft, yr hon a elwir yn yr Hebraeg Mitaraim, fel y gall pob Cymro ei ddeall oddiwrth y gair Abel Misraim, sef Galar yr Aifftiaid (Gen. 1. 11), a gelwir y wlad hono Mesi hyd heddyw gan yr Arabiaid, a gelwir hi weithiau yn yr Ysgrythyrau Gwlad Ham. Canaan, mab Ham, a roddodd ei enw i wlad Canaan, a'i feibion ef hefyd a enwasant eu gwahanol lwythau yn y wlad hono yn ol eu henwau priodol, megys Heth, tad yr Hethiaid, ac. Oush, mab Ham, oedd dad i genedl luosog a alwyd gan yr Hebreaid Cushim, sef yr Ethiopiaid. Mewn perthynas i feibion Japheth, dywedir, "O'r rhai hyn y rhanwyd ynysoedd y cenedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, wrth eu cenedloedd." Jafan mab Japheth a roddodd ei enw i'r Groegiaid, o herwydd Jafan (yn hytrach Jofon, am fod cryn gymysg yn sain yr F a'r W yn rhai ieithoedd dwyreiniol) yw enw gwlad Groeg yn yr Hebraeg, a Jofonim y gelwir y Groegiaid; ac ni a wyddom fod y Groegiaid yn galw en hunain yn Ionoi, ac y mae rhan o'u gwlad yn myned dan enw "Yr Ynysoedd Ionaidd" hyd heddyw. Yn awr pan welwn yr holl enwau hyn ac amryw ereill wedi eu rhoddi i'w gwahanol genedloedd, a hyny wedi ei sicrhau i ni trwy awdurdod yr Ysgrythyr Lân—pan welwn fod cynifer o feibion ac wyrion Noa wedi rhoddi eu henwau i'w llwythi priodol, nid ydyw yn un rhyfedd os darfu i Gomer roddi ei enw i'w genedl—yn hytrach, buasai yn rhyfedd iddo beidio. Ac os parhaodd rhai o'r enwau hyn hyd y dydd heddyw, nid ydyw yn anmhrofadwy i enw Gomer barhau felly hefyd; ac oddiwrth yr enghreifftiau uchod, y mae yn debygol i'w hiliogaeth gadw ei enw yn gystal ag y bu i'r llwythau ereill gadw enwau eu gwahanol fon— cenedlaethau; ac yn ganlynol y mae awdurdod i gredu mai felly y bu, o herwydd y mae Josephus yn dywedyd mai Gomer oedd tad cenedl y Gomeri, y rhai, medd efe, yr oedd y Groegiaid yn eu galw yn Galatai; ac y mae awdurdod i brofi fod y Galatai hyn o'r un bobl a hen drigolion Ffrainc, neu dir Gal, a galwyd hwy hefyd Calatoi (Celtoi), ac ymddengys trwy dystiolaeth ddiameuol fod yr Hen Frytaniaid a hen drigolion Ffrainc wedi tarddu o'r un gwreiddyn. Deallwn hyn oddiwrth Cesar a thrwy gyffelybrwydd eu defodau a'u harferion gwladol, megys eu Beirdd a'u Derwyddon, &c., ac oddiwrth iaith trigolion Llydaw, ac am— ryw ddarnau o hen iaith tir Gal. Weithan, gwelwn fod yma gadwyn o brofiadau anwrthwynebol am darddiad y Cymry oddiwrth Gomer. Yr oedd y Cymry o'r un gwraidd a'r Galatai, hen drigolion Ffrainc; yr oedd y Galatai yr un bobl a'r Gomari; ac yr oedd y Gomari wedi deilliaw oddiwrth Gomer. Ond dichon yr ymddengys yn ddyeithr iawn fod enw Gomer wedi ei gadw gan lwyth bychan y Cymry tra mae ereill wedi colli eu hen enwau; ond cofiwn nad yw yr Ynysoedd Ionaidd, tir meibion Jafan, ond bychain iawn o faintioli. ac nad yw gwlad Mesi, sef yr Aifft, ddim yn helaeth, eto y mae y prif enwau heb eu colli. A chofier gyda hyny, er bod llwyth y Cymry yn fychan ac anaml y dydd heddyw, nid oeddynt felly yn wastad, o herwydd yr oedd cenedl luosog yn y prif oesoedd, yr hon a elwid Cimmeri, ac yn preswylio yn ngogledd—dir Europa; a dywed hen hanesyddion mai yr un oeddynt a'r Cimbri, y rhai a drigent yn rhan o'r Almaen a Denmarc. Ond pa fodd y gellir profi fod Cimbri y Cyfandir o'r un epil a Chymry Prydain? Credwn y gellir dangos hyn trwy ddau beth penodol: yn gyntaf, trwy gyffelybrwydd y ddau enw—Cimbri, Cymry; yn ail, trwy gyffelybrwydd y iaith, canys y mae dau air o'u hiaith eto ar glawr, sef yr enw Moriamarusa, rhan o For Llychlyn, yr hyn, medd Plinius, sydd yn arwyddocau Môr Marw. Cymerer oddiwrth y geiriau hyn eu terfyniadau Lladin, a doder at y dystiolaeth hyny enw y genedl, sef Cimbri, a phwy a all ameu mai Cymry oeddynt? Nid ydym yn gweled un peth idd ei wrthosod i'r daliadau uchod, oddieithr i ryw un ddywedyd am Josephus ei fod yn byw mor bell oddiwrth oes Gomer fel nad ydyw yn debygol fod ei awdurdod ef yn ddiamheuol. I hyn yr atebwn na allwn ni weled pa awdurdod oedd gan Josephus. Dichon fod ganddo hanesion y sawl ydynt yn awr wedi myned ar goll, o herwydd ni a wyddom fod amryw lyfrau hanesiol ac ereill gan yr Iuddewon gynt y rhai ydynt er ys oesoedd wedi eu colli yn llwyr; ac os cadwodd yr Iuddewon hanesion cynifer o'r cenedloedd ereill, nid yw yn annhebygol eu bod