Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gwybod tarddiad y genedl Geltaidd, yr hon oedd unwaith yn cyffinio ar wlad Asia, ac mai nid heb awdurdod y dywedodd Josephus fod y Gomeri yn deilliaw oddiwrth Gomer. Pa darddiad arall a ymddengys mor resymol i'r enw? Rhai a ddywedant mai oddiwrth agwedd fynyddig Tywysogaeth Cymru y cymerodd ei thrigolion yr enw hwn; ond gwrthbrofa y Trioedd hyn, o herwydd gwelir yno fod y Cymry yn dwyn yr enw cyn dyfod i'r ynys hon. Haera ereill. mai oddiwrth cyn-bru y tardda, sef y trigolion cyntaf; ond paham y cymerai y Cymry yr enw hwn yn hytrach na thrigolion gwledydd ereill, a phaham y troent oddiwrth arfer yr oesoedd hyny yn mha rai y gelwid y prif drigolion yn ol eu gwahanol ben- cenedloedd? Y mae cefnogwyr y tarddiad cyn-bru yn cyfaddef i'r enw gael ei roddi yn foreu iawn, sef pan nad oedd trigolion ereill yn y tir, a hyn a'n dwg ni at oesoedd y gwasgariad, yr hyn a gymerodd le yn nghylch can mlynedd ar ol y diluw, pan roddwyd ynysoedd y cenedloedd i Japheth a'i hiliogaeth. Felly, pan ystyrir yr amrywiol ddaliadau hyn yr ydym yn barnu fod awdurdod hanes a thebygolrwydd amgylchiadau yn gwbl o ochr deilliad y Cymry oddiwrth Gommer . Y neb a ewyllysiant weled rhagor ar hyn darllement Herodotus; Archaiol, Vol. I p. 76, Vol. II. pp. 57, 58; Welle's Geo., Vol. I.; Celtic Researches, p. 135; Pearon Antiq. Celt, Ch. 8; Camden.


J. T. JONES.