Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brwynog y flwyddyn 1784, pan oedd eu mab Rowland yn bumtheng mlwydd oed, i'r Brynteg, ym mhlwyf Llanddeiniolen; ac yn fuan ar ol hyny efe a aeth i wasanaethu i Lwynybedw, yn mhlwyf Llanberis, ac yno y clywodd y bregeth gyntaf erioed oddi allan i furiau llan y plwyf, gan un Thomas Evans, o'r Waunfawr. Cawsom ein hysbysu y byddai pregethau yn cyffroi cryn lawer ar ei feddwl yn y blynyddoedd boreuol hyny o'i einioes; ond fel y mae yn fynych gyda phobl ieuainc byddai cyfeillach lygredig ei gyfoedion anystyriol yn gwisgo ymaith bob argraffiadau crefyddol oddiar ei feddwl yn fuan. Pan yn bedair blwydd ar bumtheg oed, efe a "newidiodd ei sefyllfa," trwy ymbriodi ag un Elinor Hughes, o Gwmywrach, yr hon a fu yn "ymgelydd gymwys" iddo hyd ddiwedd ei oes. Wedi ei briodi efe a aeth i fyw i hen gartref ei rieni, sef Brynteg. Erbyn hyn yr oedd pregethu Sabbathol yn lled reolaidd gan y Trefnyddion Calfinaidd yn Llanrug; a phregethent yn achlysurol yn Llanddeiniolen, a dechreuodd yntau ddyfod yn wrandawr cyson; ac o'r diwedd, pan oddoutu tair ar hugain oed, efe a ymunodd a'r ddeadell Fethodistaidd yn Llanrug, yr hon oedd yn cael ei chyfansoddi y pryd hyny o tuag ugain o aelodau. Nid oedd efe yn alluog i ddarllen llythyren ar lyfr pan ymunodd a'r eglwys; ond trwy ymdrech diwyd ni bu yn hir cyn gallu darllen y Beibl yn lled rwydd a digyfeiliorn. Ond trwy ryw amgylchiadau a'i cyfarfu, daeth pangfa ar ei grefydd; ac fel Pedr, efe a wadodd ei Feistr, a bu yn wrthgiliedig am rai blynyddoedd, am yr hyn y crybwyllai gydan gofid a chywilydd yn fynych hyd ddiwedd ei oes; yn enwedig wrth ymddiddan â gwrthgilwyr dychweledig. Eithr ni chafodd ei adael yn y tir pell y crwydrasai iddo; canys y Bugail da yn ei fawr drugaredd a aeth ar ei ol, ac a'i dug adref ar eì ysgwyddau ei hun yn llawen; ac efo a fu o lysy hyd ddiwedd ei ddyddiau, nid yn unig yn aelod, ond hefyd yn weithiwr difefl yn ngwinllan ei Arglwydd. A phan oedd efe yn ddeugain mlwydd oed efe a ddewiswyd yn flaenor, neu ddiacon, gan yr eglwys yn Llanrug. Nid oedd gan y Trefnyddion Calfinaidd yr un addoldy yn mhlwyf Llanddeiniolen hyd yn hyn; ond trwy ei offerynoliaeth ef, a rhai brodyr ffyddlawn ereill, cafwyd yma adeilad fechan yn lled fuan, yr hwn aelwid "Yr Ysgoldy;" ac y mae hwnw erbyn hyn wedi ei helaethu drachefn a thrachefn, fel y mae yn addoldy eang a hardd, a chynulleidfa luosog a phrydferth yn ymgynull ynddo, at goffadwriaeth enw yr Arglwydd. Efe a fu yn hynod o ffyddlon gyda'r achos crefyddol yn y lle hwn, ac arferai yn y blynyddoedd hyny gynghori a rhybudio ei gymydogion pechadurus ar bob adeg gyfleus; mewn cyfarfodydd gweddio, yn yr ysgolion Sabbathol, &c., a chafwyd llawer o brofion na bu ei lafur yn ofer yn y wedd ddysyml yma. Ond ar ol bod yn ffyddlon a diwyd am flynyddoedd yn arfer ei ddawn yn y modd yma yn ei gylch cartrefol, tueddwyd ei feddwl i ymgyflwyno yn fwy llwyr i bregethu y gair i'w gyd genedl; a'r hyn y cydsyniodd y cyfarfol misol yn rhwydd; ac er nad oedd efe ond dyn gwledig a ddiaddysg, yr oedd yn feddianol ar synwyr cyffredin cryf, ac yr oedd eî ddull syml a dirodres o ymdrin a'r gwirionedd, yn peri fod ei weinidogaeth yn dderbyniol gan yr eglwysi pa le bynag yr elai. Efe a barhaodd dros amryw flynyddoedd i deithio oddi amgylch i bregethu ar y Sabbathau yn ei sir ei hun; a bu gyda rhai o weinidogion y sîr ar rai teithiau trwy siroedd ereill. Efe a ddyoddefodd lawer gan fethiant yn ei aelodau dros y deng mlynedd diweddaf o'i oes, fel nas gallasai fyned nemawr oddicartref, heblaw i'r addoldy y perthynai iddo; a chynelid cyfarfodydd gweddio yn ei dy yn fynych yn ystod ei flynyddoedd diweddaf; a byddai yntau fel Paul yn pregethu i'w gymydogion yn ei dy ei hun; ond yr oedd ei lesgedd yn gymaint am amryw fisoedd cyn eì farwolaeth, fel nas gallai ymddiddan nemawr â neb heb boen dirfawr. Ar yr 21 o Awst, 1841, efe a hunodd yn yr Iesu, yn 72 mlwydd oed; ac ar y 25 o'r un mis, hebryngwyd ei gorff i fynwent Llanddeiniolen, lle ei gadawyd i orphwys mewn gobuith adgyfodiad i'r fywyd tragywyddol. Rhagoriaeth Rowland Abraham oedd symledd ei feddwl, yr hyn a welid yn mhob peth a wnelai. Er nad oedd efe yn ddyn o wybodaeth eang, nac o ddeall treiddgar, eto gwelai yr hyn a welai ar unwaith, a dywedai ei feddwl bob amser yn eglur, ar ar fyr eiriau. Os mewn cyfeillach bersonol, efe a fyddai yn sicr o wneud y gyfeillach yn ddifyrus ac adeiladol; ac yn y cyfarfodydd eglwysig gwerthfawrogid ei wasanaeth yn neillduol, gan mor fedrus oedd efe i ymddiddan a'i gyd bererinion am eu profiadau. Deuai yn ebrwydd o hyd i agwedd eu meddyliau; ac yr oedd yn hynod o fedrus i gymhwyso feddyginiaeth briodol at eu harchollïon. Rhoddai gyngor byr ac i'r perwyl yn wastad, gan lefaru gair mewn pryd wrth eneidiau diffygiol. Yr oedd ganddo ddawn hynod gyfaddas hefyd i holwyddori ac addysgu plant, am hyny byddai cryn awydd ac ymdrech am gael ei wasanaeth yn nghyfarfodydd ysgolion yr ardaloedd cylchynol. Yr oedd efe yn dra medrus i gyfaddasu ei iaith at ddeall y plant, ac yn ochelgar rhag eu holi o bell, am bethau uwchlaw eu dirnadaeth. Yr oedd efe yn wr mawr mewn gweddi hefyd; nid gweddïau gwyntog disylwedd oedd yr eiddo ef, ond byddai ei weddïau bob amser yn llawn o bethau sylweddol a phwysig, a'r rhai hyny wedi eu gwisgo mewn ychydig o ymadroddion, detholedig ac i'r pwrpas. Ac er nad ystyriodd efe ei hun erioed yn nemawr o "bregethwr," ond yn hytrach yn un o'r dosbarth dysyml a alwai ein tadau "cynghorwyr." Yr oedd ynddo bethau teilwng o'i efelychu ynddynt gan lawer o'n pregethwyr mawr. Byddai ei bregeth bob amser yn gorwedd yn esmwyth ar ei destun. Nid darllen rhyw ran o'r ysgrythyr yn destun, a phregethu athrawiaeth na pherthynai i'r rhan hono a wnai efe; ond efe a ofalai yn wastadol am bregethu gwirionedd neillduol eì destun; ac fel hyn, er nad oedd efe yn ddyn mawr,