Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn gwaed; ac am elorau yn llwythog o laddedigion dirif. Ni ddywedir am ganlyniadau uniongyrch y frwydr; ond y mae gwythien barddoniaeth Llywarch yn rhoddi lle i gasglu, mai Arthur a'i filwyr a gawsant reolaeth y maes, ac iddynt gael yr hyfrydwch o weled y gelyn yn cymeryd y traed, ac yn ymddeol o'u gwydd. Am frwydr Llawen, y mae yn gorwedd mewn tywyllwch, fel mai rhyfyg o'r mwyaf fyddai ychwanegu, mwy nag i Arthur ymddwyn yn deilwng o'i gymeriad, a chwareu y gwron, yn ol ei arferiad gyffredin. Ond y mae gwyr o fri yn mhob oes mewn llai perygl oddiwrth elynion agored nag oddiwrth gyfeillion bradwrus; ac felly y profodd Arthur. Mynegwyd eisoes fod ganddo nai fab ei chwaer Anna, o'r enw Medrod; yr hwn fel yr ymddengys, a gymerwyd yn ieuanc i lys ei ewythr, lle yr enillodd fri nid bychan o herwydd ei ymddygiadau moesgar, yn gystal ag am ei wroldeb milwrol. Ac oddiar yr ystyriaethau hyn ei ewythr a roddodd iddo ymddiried o bwys. Ond ar un achlysur, pan oedd y brenin yn gorfod gadael ei lys i fyned i'r rhyfel, penododd ei nai i weinyddu fel rhaglaw yn ei absenoldeb. Eithr Medrod, yn lle bod yn ffyddlawn yn yr ymddiried a roesid iddo gan ei ewythr, a ddefnyddiodd y cyfleusdra i ffurfio brad yn ei erbyn, gan gymeryd i'r gyfrinach un arall o wyr y llys, a elwid Iddog. Ac nid hir y bu y brad dirgelaidd hwn heb dori allan mewn gweithredoedd cyhoeddus o wrthryfel. Ac y mae yn debygol i Medrod trwy ei ddawn crybwylledig o foddio dynion, enill cryn rifedi o'i gydwladwyr i bleidio ei anturiaethau. Ei weithred gyntaf o gamwri ydoedd anrheithio tiroedd y brenin yn Nghornwal; a dywedir i hyn gael ei gyflawni mor llwyr, fel nad arbedwyd dim a ellid ei ddyfethia. Ac fel pe na buasai hyny yn digoni ei fariaeth, dywedir iddo halogi Gwenhwyfar, gwraig y brenin! Ond nid hir y bu ei ddyhirwch heb ddyfod yn hysbys i'w ewythr, yr hwn pan glywodd am ymddygiadau bradwrus Medrod, a benderfynedd ddial yr unrhyw i'r eithaf; ac i'r perwyl hwnw ymosododd yn ddioed ar diriogaethau treftadol y bradwr yn y Gogledd, gan eu difrodi mor llwyr ag y difrodasid yr eiddo ef ei hun yn Nghornwal. Y difrodiadau hyn o'r ddau tu a roddasant achlysur i ymddialau mwy cyffredinol; Medrod, i ychwanegu dial at fradwriaeth, a gysylltodd ei hun a'i bleidwyr â byddin y Saeson, i ymladd yn erbyn Arthur a'i gydgenedl; ac y mae yn ymddangos i hyn fod yn achlysur o amryw frwydrau rhwng y ddwy blaid; ac er mai y Cymry yn gyffredin oeddynt fuddugol yn y brwydrau hyny, eto yr olaf o honynt a amddifadodd y genedl o'i phenigamp ryfelwr; a hono a elwid "Brwydr Camlan." Pa faint bynag o aneglurdeb sydd yn cymylu rhanau ereill o fywyd Arthur, y mae tystiolaethau dibetrus yn profi mai y frwydr uchod a derfynodd ei yrfa ; a hono a ddygwyddodd, mor agos ag y gellir casglu, tua'r flwyddyn 542. Mae yr hen ysgrifeniadau Cymreig, barddonol a hanesiol, yn gydsain mewn perthynas i'r amgylchiad hwn. Eto y mae amrywiaeth barnau yn nghylch sefyllfa y lle a elwir Camlan; rhai a haerant mai yn Ngogledd—barth Lloegr yr ydoedd, ac ereill mai yn Nghornwal. Pa fodd bynag, y mae tystiolaethau yn mantoli gyda y dyb olaf, gan roddi ar ddeall mai bro enedigol Arthur a fu hefyd ei fro farwolaethol. Desgrifir y frwydr hon fel un o'r rhai mwyaf gwaedlyd a gofnodir mewn hanesyddiaeth, canys y mae y Trioedd yn dywedyd na adawyd dim ond tri o'r rhyfelwyr yn fyw, er fe allai mai math o ormodiaith yw hyny, er rhoi desgrifiad mwy alaethus o'r alanas. Ond beth bynag am hyny, cyfarfu Medrod yma a thaledigaeth ei frad; syrthiodd ar faes y frwydr; ond nid cyn bod Arthur hefyd wedi cael archoll farwol, a hyny medd rhai, trwy ddwylaw ei nai ysgeler ei hun! Dyma fel y darfu am brif ryfelwr y Cymry, a chydag ef am fawrfri y genedl fel pobl annibynol; canys o hyny allan ymddengys i rwysg y Saeson gynyddu yn raddol, nes o'r diwedd iddynt ddifeddianu y cyndrigolion o'u treftadaeth gysefin, a'u cyfyngu o fewn cyffiniau Cymru. Dywed yr hanesion ddarfod i gorff Arthur gael ei gymeryd o faes Camlan, a'i gladdu yn Ynys Afallon (Glastonbury,) yn swydd Somerset, ac i'r brenin Harri II. ryw dro pan ar ymweliad a Chastell Cilgeran, yn swydd Benfro, wrth glywed y traddodiad yn mysg y Cymry o fod Arthur wedi ei gladdu yn y lle crybwylledig, roddi gorchymyn i chwiliad gael ei wneuthur am ei gorff, a darfod dyfod o hyd i lech faen tua saith troedfedd islaw gwyneb y ddaear, ac oddidani groes blwm, ac arni y darlleniad canlynol:

"HIC JACET SEPULTUS INCLYTUS REX

ARTHURIUS IN INSULA AVALONIA."

Hyny yw, "Yma y gorwedd yr enwog Frenin Arthur yn Ynys Afallon." Ac medd traddodiad yn mhellach—Ar ol cloddio yn nghylch naw troedfedd yn ddyfnach, daethant o hyd i'r gweddillion o gorff y brenin, yn amgauedig mewn bonyn pren derwen; a bernid wrth ei esgyrn ei fod yn ddyn o faintioli anarferol; a bod ôl deg archoll ar asgwn ei ben, ac un o'r rhai hyny yn helaethach ac yn fwy agored na'r lleill, a hwnw, fel y tybid, a fuasai ei archoll marwol. Y brenin Harri a orchymynodd i'r gweddillion hyn gael eu hail gladdu yn eglwys Glastonbury, mewn bedd—gell farmor, yr hon wedi hyny a symudwyd i ymyl yr allor yn yr eglwys hono, trwy orchymyn y brenin Edward I.; ac yno y bu hyd oni ddinystriwyd holl fynachlogydd y deyrnas, a'r cwbl oedd ynddynt, trwy orchymyn Harri VIII. Mae rhai awduron, yn wir, yn ameu gwirionedd y traddodiadau blaenorol mewn perthynas i gladdiad Arthur yn Glastonbury, a hyny o herwydd na ddarfu i un o'r beirdd cydnabyddus ag ef, a'r rhai oedd yn byw ar ei ol, son dim am yr amgylchiad, eithr i'r gwrthwyneb, fod Taliesin wedi dadgan fod ei ddiwedd yn ddirgelwch i'r byd. Ac y mae rhai o'r hen haneswyr yn dywedyd na choeliai y Cymry iddo farw, eithr eu bod yn ei geisio am lawer cant o flynyddoedd wedi brwydr Camlan. Hyn mae'n debygol a roddodd achlysur i'r gyfadgan newydd a ddodwyd ar droed yn ddiweddar yn