Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn oedd yn un o'r gwrandawyr, a ganodd ar ei ffordd adref:—

"Y deg a thriugain saith o weithiau,
Dyma rif na dderfydd byth;
Maddeu'r hwyr a maddeu'r bore,
Madden beiau rif y gwlith;
Dwr a gwaed yw'r afon yma,
Ddaeth o ol y wayw ffon;
Hi dorodd allan ar Galfaria,
Par tra paro'r ddaear hon."

BAXTER, WILLIAM, oedd ysgrifenydd ieithyddol enwog, a nai ac etifedd yr anghydffurfiwr a'r duwinydd enwog Richard Baxter. Ganwyd ef yn Llanllugan (ty tad ei fam), sir Drefaldwyn, yn 1650, o rieni parchus, er nad oedd eu hamgylchiadau ond isel. Esgeuluswyd ei addysg foreuol yn fawr; a phan aeth gyntaf i'r ysgol, yn Harrow, y pryd hwnw yn ddeunaw mlwydd oed, nid oedd yn gwybod llythyren mewn llyfr, ac nid oedd yn deall gair o un iaith ond Cymraeg, fel y tystiai efe ei hun. Modd bynag, efe a brynodd ac a ddefnyddiodd ei amser mor dda, fel y daeth yn wr o wybodaeth fawr a helaeth. Ei athrylith a'i harweiniai yn benaf i astudio ieithyddiaeth a hynafiaethau. Ar y cyfryw destunau yr ysgrifenodd amryw lyfrau; y cyntaf a gyhoeddodd oedd yn 1679, sef ieithadur a alwai, "De Analogia, seu Ante Latinæ Linguæ Comentarialus." 12 plyg; Llundain. Cynwysa hwn lawer o syniadau neillduol a gwreiddiol o'i eiddo ei hun. Yn 1695, ymddangosodd ei argraffiad newydd a diwygiedig o Anacreon, gyda nodiadau. Yr hwn a ail argraffwyd yn 1710, gydag ychwanegiadau a diwygiadau helaeth. Yn 1701, cyhoeddodd argraffiad o Horace; yr hwn a ail argraffwyd drachefn, gydag ychwanegiadau, yn 1725. Yn 1719, ymddangosodd ei Eiriadur cywrain a dysgedig o hynafiaethau Prydeinig, dan yr enw "Glossarium Antiquitatum Britanicarum, sive syllabus Etymologicus Antiquitatum veteris Britanniæ atquæ Hiberniæ temporibus Romanorum." Ei waith nesaf oedd Eirlyfr o hynafiaethau Rhufeinaidd; yr hwn, modd bynag, na chyhoeddwyd hyd ar ol ei farwolaeth, yn 1726, gan y Parch. Moses Williams, dan yr enw, "Reliquise Baxterianæ, sive Willielmi Baxteri opera postuma." Cafodd hwn ei ail argraffu yn 1731, gyda'r enw newydd o "Glossarium Antiquitatum Romanarum." Nid yw yn cyraedd yn mhellach na'r llythyren A; ac y mae'r rhan fwyaf o'i benodau yn draethodau hirion a dysgedig. Yr oedd efe yn feirniadydd galluog yn y Gymraeg, Gwyddelaeg, ieithoedd y gogledd a'r dwyrain, yn gystal Lladin a'r Groeg. Parhai i ohebu a'r dynion dysgedicaf yn ei oes, yn neillduol a'i gydwladwr, Edward Llwyd; ac y mae rhai o'i lythyrau wedi eu cyhoeddi ar ddiwedd y "Glossarium Antiquitatum Romanarum." Yr oedd Baxter yn rhwym y rhan fwyaf o'i oes mewn dysgu ieuenctyd. Yr oedd yn cadw bwrdd-ysgol am rai blynyddau yn Totenham, yn Middlesex. Oddiyno, dewiswyd ef i fod yn feistr Ysgol y Sidan Weithwyr, yn Llundain. Yno y parhaodd dros ugain mlynedd, a rhoddodd ei ofal i fyny ychydig cyn ei farwolaeth; yr hyn a gymerodd le yn Mai, 1723, yn 73 mlwydd oed. Gadawodd deulu o ddau fab a thair merch.


BAYLY, LEWIS, D.D., a anwyd yn nhref Caerfyrddin, a derbyniodd ei addysg golegawl yn Ngholeg Exeter, Rhydychain. Yn y flwyddyn 1611, ymddengys ei enw yn nghofnodau Rhydychain fel gweinidog Evesham, yn Nghaerwrangon, caplan i'r tywysog Henry, a gweinidog eglwys St. Mathew, yn Friday- street, Llundain. Yr oedd ei enwogrwydd fel pregethwr yn fawr. Cafodd ei wneud yn gaplan i'r brenin Iago I., yr hwn a'i dyrchafodd i esgobaeth Bangor ar farwolaeth yr esgob Rowlands. Cysegrwyd ef yn Lambeth, ar yr 8fed o Ragfyr, 1616. Ar y 15fed o Orphenaf, 1621, traddodwyd ef i garchar Fleet; ond nid yw y cyhuddiad i'w erbyn yn hysbys, er y meddylir mai rhywbeth gyda golwg ar briodas Henry ag Infanta, o Ysbaen, ydoedd. Modd bynag, cafodd ei ryddhau yn fuan. Efe a ysgrifenodd draethawd rhagorol, a elwid, "Ymarfer o Dduwioldeb, yn cyfarwyddo y Cristion pa fodd i rodio er rhyngu bodd Duw." Am boblogrwydd y traethawd hwn, gall y darllenydd farnu wrth y nifer fawr o argraffiadau yr aeth trwyddynt. Yr oedd yr un yn 1734 y 59 argraffiad. Cyfieithwyd yr argraffiad cyntaf 12 plyg i'r Gymraeg, dan yr enw "Ymarfer o Dduwioldeb," yr hwn a argraffwyd yn Llundain, yn 1630; ac argraffwyd eto amryw weithiau wedi hyny, yn 8 a 12 plyg. Cyfieithwyd hefyd i'r Ffrancaeg, yn 1633. Yr oedd ei glod mor fawr, fel yr achwynai John d'Espagne, ysgrifenydd a phregethwr Ffrengig yn nghapel y Somerset House, yn 1656, fod y cyffredinolrwydd o'r bobl gyffredin yn edrych arno o gyfartal awdurdod a'r Beibl. Efe a fu farw Hydref 23, 1631, a chladdwyd ef yn ei eglwys gadeiriol, yn Mangor. (Wood's Ath. Oxon Biog. Brut.)


BAYLY, THOMAS, D.D., oedd fab ieuangaf Dr. Lewis Bayly, esgob Bangor, ac addysgwyd ef yn Nghaergrawnt. Ar ol cymeryd ei raddio yn y Celfau, y brenin yn 1638 a gyflwynodd iddo is-ddeoniaeth Wells. Yn 1644, efe, yn nghyd ag ereill a enciliasant i Rydychain; ac yn Awst yr un flwyddyn, graddiwyd ef yn A.C.; ac yn fuan wedi hyny graddiwyd ef yn D.D. Yn 1646 cawn ef gyda iarll Caerwrangon yn Nghastell Ragland; yr hwn a amddiffynai y boneddwr dros y brenin yn erbyn byddin y Senedd. Wedi hyny aeth i Ffrainc, a gwledydd ereill; ac ar ol marwolaeth y brenin dychwelodd i Loegr. Cyhoeddodd amryw lyfrau; yn mysg ereill cyhoeddodd un yn cynwys ymosodiad chwerw ar y llywodraeth, yr hyn a barodd iddo gael ei daflu i garchar Newgate. Pan yn y carchar cyhoeddodd lyfr arall; ac mor fuan ag y cafodd ei gyhoeddi, diangodd o'r carchar a ffodd i Holland, lle cyhoeddai ei hun yn Babydd, ac y daeth yn amddiffynydd selog o'r grefydd Babaidd. Wedi hyny sefydlodd yn Douay, lle y cyhoeddodd waith a alwai, "Terfyn dadleuaeth rhwng y grefydd Babaidd a Phrotestanaidd," yr hwn a argraffwyd yn 1654. Oddiyno enciliodd i Itali, lle y