Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bran yr oll i'r Gogledd o'r Humber, yn ddarostyngedig i awdurdod oruchel Beli. Gorphwysasant felly am bum mlynedd, pan y ceisfodd Bran ferch brenin y Llychlyn mewn priodas, fel y byddai iddo gael cymorth yn erbyn ei frawd. Ar hyny Beli a groesodd yr Humber, a chymerodd feddiant o'i ddinasoedd a'i gestyll; ac hefyd a orchfygodd y galluoedd tramor oedd Bran wedi ddwyn gydag ef. Yr oedd Beli yn awr yn frenin holl Brydain. Efe a osododd amgylchiadau ei deyrnas mewn trefn; ac yn fwy neillduol talodd sylw i ffurfiad ffyrdd yn groes i'r wlad; y rhai wedi eu gorphen a orchymynodd eu cadw yn gysegredig; a chyfranodd arnynt y rhagorfraint o noddfa. Ar ol rhai blynyddoedd o orphwysiad, cafodd eilwaith gwrdd a'i frawd, yr hwn oedd wedi dwyn drosodd gorff cryf o filwyr o Gal. Ond pan ar fyned i'r frwydr, gwnaed cytundeb, yr hwn a effeithiwyd trwy eu mam. Y flwyddyn ganlynol, y ddau frawd a oresgynasant Gal, a gorchfygasant bawb a'u gwrthwynebasant. Oddiyno aethant i Rufain, wedi darostwng yr holl wledydd a ymyrent. Y Rhufeiniaid oeddynt falch i'w prynu ymaith & swm fawr o arian, ac addewid o deyrnged flynyddol, gan roddi 24 o wystl-ddynion er cyflawni y cytundeb. O Rufain aethant i'r Almaen; ond yn cael ar Iddeall fod y Rhufeiniaid yn anfon cymorth i'r Almaeniaid, dychwelasant i Rufain; ac ar ol gwarchae cymerasant y ddinas; ac arosodd Bran fel ymerawdwr Rhufain. Dychwelodd Beli i Frydain, yr hon a lywodraethodd mewn heddwch am y gweddill o'i oes. Efe a adeiladodd Gaerlleon-ar-Wysg, ac hefyd borth ardderchog yn Llundain, a elwir oddiwrtho ef, "Porth Beli;" uwch ben yr hwn yr adeiladodd efe dwr uchel; a phan fu farw, ei gorff a losgwyd, a'r lludw a roddwyd mewn llestr aur, o wneuthuriad cywrain, yr hwn a osodwyd ar ben y pinacl. Y fath yw sylwedd yr hanes a roddir yn y Brut Cymreig, argraffedig yn yr ail gyfrol o'r Myvyrian Archaiology.

BELI MAWR, mab Manogan; ar farwolaeth ei dad, efe a'i canlynodd i'r llywodraeth Brydeinig, yn ol y Brut, yr hyn a fwynhaodd am ddeugain mlynedd, ac a ddylynwyd gan ei fab Lludd. Cofnodir ef yn y Trioedd (Myv. Arch. ii. 59) fel wedi diddymu un o dri aflonyddiadau ynys Prydain; yr hyn oedd gynllwyn yn erbyn y llywodraeth, a rhyfel cartrefol. Efe oedd tad yr enwog Caswallon.


BELI mab Rhun ab Maelgwn Gwynedd, a ganlynodd ei dad i'r llywodraeth fel penllywydd Gogledd Cymru yn 586, a bu farw yn 599, pan ddylynwyd ef gan ei fab Iago.


BELYN, mab Cynfelyn, a gofnodir yn y Trioedd fel arweinydd y tri Gosgordd addwyn ynys Prydain. Gelwid hwy felly am eu bod yn dwyn arfau ar eu traul eu hunain, heb geisio tal na gwobr oddiwrth y llywodraeth. Belyn a'i alluoedd a wasanaethasant yn myddinoedd Caradawg ab Bran. Caradawg oedd enwog mewn hanesiaeth. (Myv. Arch. ii. 8, 69.)


BELYN, o Leyn, a gofnodir yn y Trioedd (Myv. Arch ii. 16, 62) fel penaeth un o'r tri Teuluoedd hueilogion ynys Prydain." Gelwid hwy felly oddiwrth rwymiad o honynt eu hunain yn nghyd â llyfetheiriau eu ceffylau, i gynhorthwyo ymosodiad Edwin ar Fryn Cenau, a elwid wedi hyny Bryn Edwin, yn Rhos, tua'r flwyddyn 620. Y ddau lwyth ereill oedd Caswallon Law Hir, a Rhiwallon ab Urien. Fel gwobr am eu gwrolder, caniateid i'r llwythau hyn wisgo rhwymau aur; ac yr oedd ganddynt awdurdod goruchel yn eu tiriogaethau eu hunain, yn ddarostyngedig yn unig i raith gwlad a chenedl.


BENLLI GAWR, neu y Galluog, oedd arglwydd ar randir helaeth, yn ffurfio rhanau o siroedd presenol Flint a Dinbych. Yr oedd yn byw oddeutu canol y bumed ganrif. Y mae'r amgylchiad a ganlyn yn deilwng o gael ei nodi mewn cysylltiad ag ef:—Pan oedd y gweithwyr, ychydig amser yn ol, yn symud tomen o geryg, yn agos i'r Wyddgrug, yn sir Flint. daethant o hyd i lurig, neu frongengl aur Frytanaidd, mewn lle a elwir Bryn-yr- ellyllon; daethant hefyd o hyd i ysgerbwd. Yr oedd y benglog o faintiolaeth dirfawr, ac esgyrn y morddwydydd yn eiddo dyn o faintioli mawr iawn. Yn gorwedd ar ei fynwes yr oedd brongengl, ac oddeutu dau neu dri chant o gleiniau ambr ardderchog wedi eu boglymu arni, ac wedi ei chroesi a math o berthwe, gwneuthuredig o aur pur, mewn ymddangosiad rywbeth yn debyg i'r angylion a gafwyd ar yr hen fwa Sacsonaidd, a'r oll wedi eu seilio ar aur pur. Ei heithaf hyd yw tair troedfedd a saith modfedd, wedi ei gwneud, mae'n debyg, i fyned dan y breichiau, a chydgyfarfod ar gyfer canol y c. fn; a'i lled o'r tu blaen yw wyth modfedd. Pwysau y rhelyw dyddorgar hwn yw dwy wns ar bumtheg, a'i gwerth yw £60. Y mae yn awr yn y British Museum. Y Dr. Owen Pugh a wnaeth y sylwadau manylgraff a ganlyn ar y peth, ac ymddengys pob amgylchiad fel yn profi fod Benlli Gawr wedi ei gladdu yn y fan hono. Y mae yn debygol i'rdynsawd hwnw fodoli wedi i'r Rhufeiniaid adael ein gwlad. Pe amgen, buasai y corff wedi ei losgi; a phe buasai byw oddeutu y flwyddyn 600, neu wedi hyny, buasai wedi ei gladdu yn un o'n hen eglwysi. Yn ngwyneb yr amgylchiadau hyn, nis gallwn fod yn mhell o'n lle pan yn priodoli amser hanfodiad y person rhyfeddol hwnw i'r flwyddyn 500. Ond eto, pwy oedd efe? Pwy oedd yr uchelwr y buasai i'w ddalwyr, ar ei gladdedigaeth, daflu y fath grug bridda cheryg ar ei fedd, ac y buasai y fath deyrnged nodedig o barch gael ei rhoddi i'w goffadwriaeth? Neb, debygem, ond Benlli Gawr ei hun; yr hwn yr oedd ei gyfeillion o'i amgylch yn ei gladdedigaeth, ar grih y mynydd a elwir ar ei ol ef Moel Benlli; ac yn ngolwg ei breswylfod a elwid Wyddgrug, yn gystal ac yn ngolwg Dyffryn Clwyd, yr ochr arall. mae bedd Beli, mab y dyn galluog hwn, tuag wyth milltir oddiyno; oblegyd dywed Englynion Milwyr fod Beli yn gorwedd yn Llanarmon Iâl.


BENREN a gofnodir yn y Trioedd fel prif fugail deadellau Caradog ab Bran a'i ganlynwyr, y rhai a gadwodd efe yn Corwenydd,