elli, yn swydd Gaerfyrddin, Rhagfyr 25ain,
1789; a bu farw yn yr un dref Awst 16eg,
1852, yn driugain a thair blwydd oed, ac wedi
bod yn pregethu yr efengyl yn Nghyfundeb y
Trefnyddion Calfinaidd am un mlynedd ar
ddeg ar hugain. Mab oedd John Bowen i
Walter ac Anne Bowen, y cyntaf yn ened-
igol o Lanelli, a'r llall o dref Aberteifi. Dygai
ei dad yn mlaen yr alwedigaeth o ddilledydd a
masnachydd, ac yr oedd, o ran ei amgylchiadau
bydol mewn sefyllfa dra chysurus. Mae yn
ymddangos fod y dywededig Walter Bowen yn
aelod gyda'r Bedyddwyr yn y Felinfoel, ger-
llaw Llanelli, cyn bod gan y Trefnyddion
gynulleidfa yn y dref hono. Ond ar un Sab-
bath, pan oedd y cymundeb i gael ei weinyddu
yn y Felinfoel, aeth Walter Bowen, a thy-
ddynwr o Lanelli, o'r enw Henry Rees,
ereill o'u cydaelodau, i'r Gopa Fach, tua naw
milltir o ffordd, lle yr oedd cynulleidfa yn
perthyn i'r Trefnyddion, i wrando y Parch.
David Jones, o Langan; ec am yr afreolaeth
hwn fe'i gelwid i gyfrif, yr hyn a achlysurodd
eu hymadawiad o'r Felinfoel; ac o hyny allan,
ymunasant â'r Trefnyddion yn y Gopa Fach
a hyn, o'r diwedd, a arweiniodd i gychwyniad
achos blodeuog a chryf y Trefnyddion Calfin-
aidd yn Llanelli. Gan fod Walter Bowen yn
wr crefyddol, ac yn lled esmwyth arno o ran
ei amgylchiadau bydol, efe a roddes addysg
dda i'w blant, o ba rai y bu iddo bump;
felly, cafodd ei fab, John Bowen, gymaint o
fanteision addysg ag odid neb o ieuenctyd
Llanelli yn yr adeg hono; a gwnaeth y defn-
ydd goreu o honynt. Yr oedd yn gyfrifydd
penigamp, a medrai ar lawysgrifen oedd yn
ddiarebol o dda. Cafodd flas ar wybodaeth
yn moreu ei ddyddiau; a byddai efe yn treulio
ei amser yn llwyr a diwyd gyda'i lyfrau neu y
fasnach; a thrwy ei ddiwydrwydd diwegi efe
a ddaeth yn byddysg yn holl ranau masnach
ei rieni yn fuan; a da iawn a fu hyny iddo ef
a'r teulu; canys cyn ei fod ef yn gyflawn
ddeng mlwydd oed, bu farw ei dad, a disgyn-
odd gofalon y fasnach ar ei fam, yr hon oedd
eisoes a'i dwylaw yn rhwym gyda'i theulu;
ond trwy ddiwydrwydd, gofal, a gwybodaeth
John ei mab, bu yn alluog i'w dwyn yn mlaen
yn lled gysurus.
Yr oedd yn arferiad gan
fasnachwyr Llanelli, fel amryw ereill o drefydd
y Deheudir y pryd hyny, fyned i ffair Caer-
odor (Bristol) unwaith yn y flwyddyn i brynu
nwyddau, fel yr arferai masnachwyr Gogledd
Cymru fyned i ffair Caer. Daeth yr adeg i
fyned i'r ffair i fyny, ond yr oedd ei fam, o
herwydd gofalon teuluaidd, yn analluog i fyned;
ac anfonodd John yno, a swm lled dda o arian
yn ei logell. Masnachydd cyfrifol, wrth weled
Ilanc mor ieuanc ar neges mor bwysig, can
belled oddicartref, a ameanodd roddi prawf ar
ei gymwysderau; ac er ei fawr foddlonrwydd,
cafodd allan nad gorchwyl hawdd oedd i neb
dwyllo John, ac am hyny efe a roddes bunt yn
anrheg iddo. Arferai ei fam ddywedyd fod
rhywbeth ynddo yn wahanol i'r plant ereill
pan yn ieuanc iawn; a pharhaodd felly yn
nodedig o ofalus a diwyd. Yr oedd o dymer
naturiol fwynaidd a siriol, yn hynod o ufydd
i'w fam, a pharchus o honi, ac anfynych iawn
y gwelid gwg ar ei wynebpryd. Darllenai
lawer; ond er hoffed ydoedd o'i lyfrau, nis
gallai eu swyn beri iddo esgeuluso y fasnach
un amser. Yn y flwyddyn 1803, pan yn
bedair blwydd ar ddeg oed, efe a gafodd ei
dderbyn yn aelod eglwysig yn Gellyon, yr
addoldy bychan cyntaf a fu gan y Trefnyddion
Calfinaidd yn nhref Llanelli. Ryw amser,
pan oedd o bumtheg i ddeunaw mlwydd oed,
efe a aeth i wasanaeth Mr. J. Roberts, mas-
nachydd cyfrifol o'r dref, lle y treuliodd lawer
o flynyddau, ac yr enillodd ymddiried a pharch
mawr; yn gymaint felly fel y cymerodd ei
feistr ef yn gyfranog ag ef yn y fasnach, a
pharhaodd y cydfasnachaeth hyd farwolaeth
Mr. Roberts, yn 1824, ac o hyny allan dygodd
Mr. Bowen y fasnach yn mlaen ei hunan.
Pan oedd efe yn bedair blwydd ar hugain oed,
efe a ddewiswyd yn ddiacon ac yn ysgrifenydd
yr eglwys; ac efe a barhaodd i weini y swydd
olaf hyd o fewn ychydig i ddiwedd ei oes; ac
yn wir, un o'r rhai goreu a welsom yn gweini
y swydd hono oedd efe. Yr oedd efe yn hynod
am brydlonrwydd a threfnusrwydd gyda phob
peth; a dosbarthai ei amser yn y fath fodd fel
y byddai ganddo hamdden at bob gorchwyl.
Ei hoff arwyddair ydoedd, "Amser i bob peth,
a phob peth yn ei amser;" ac yn gyson a
hyny yr ymddygai ei hunan, gan fod yn dra
gofalus am gyflawni ei holl ymrwymiadau yn
brydlawn a ffyddlawn. Ond er mor ddiwyd a
gofalus ydoedd gyda'i fasnach fydol, anaml y
collai un moddion o ras. Darllenai lawer, a
myfyriai yn ddyfal, yn enwedig ar bynciau
sylfaenol y grefydd Gristionogol, fel y crybwyll-
ir yn ei farwnad :-
"Ti astudiaist gyda'r egni
A'r manylrwydd mwya' ma's
Egwyddorion Brown a Charnock,
Cedyrn egwyddorion gras."
A thrwy ei ddiwydrwydd yn darllen gweithiau
yr awduron goreu oeddynt i'w cael y dyddiau
byny, cyrhaeddodd yn fuan i feddiant o
wybodaeth helaethach na nemawr o'i gyfoed-
ion; er hyny, parhai yn wr ieuanc gwylaidd, a
thra bynaws; a barnai ei frodyr fod ynddo
lawer o gymwysderau i waith y weinidogaeth;
ac felly, cymellasant ef yn daer i ymgymeryd
a'r gorchwyl difriful; ond teimlai efe lawer o
anaddfedrwydd yn ei feddwl i gydsynio â'u
cymelliad; ond o'r diwedd, trwy lawer o
daerni, caed ganddo esgyn i'r pulpud ar ddydd
Nadolig, 1821, pan oedd efe yn cael pen ei
32 mlwydd oed; a mawr y boddlonrwydd a
gafodd yr eglwys a'r gynulleidfa ynddo ef.
Efe a ddaeth yn bregethwr tra chymeradwy
yn fuan; a chafodd ei ordeinio i gyflawn waith
y weinidogaeth yn Ngymdeithasfa Aberteifi,
yn mis Awst, 1830. Arwedd athrawiaethol,
gan mwyaf, a fyddai i bregethau Mr. Bowen;
ond er hyny, nis gallai y rhai mwyaf hoff o
bregethau ymarferol lai na'i hoffi; canys ni
byddai efe un amser yn ymbalfalu mewn
tywyllwch, ond traethai ar ei bwnc yn oleu,
dengar, ac adeiladol.
Treiddiai i mewn i
athrawiaethau gras, a dadlenai ddyfnion bethau
Q
Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/44
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto